News Centre

Trawsnewid Trefi: cymorth i wella canol trefi

Postiwyd ar : 16 Hyd 2024

Trawsnewid Trefi: cymorth i wella canol trefi
Gall Benthyciadau Eiddo Canol Trefi fod o fudd i berchnogion eiddo a busnesau lleol gan gyfrannu at fywiogrwydd a thwf canol y dref.

Mae benthyciadau di-log ar gael ar gyfer eiddo masnachol gwag neu eiddo masnachol nad yw'n cael ei ddefnyddio'n ddigonol yng nghanol trefi.  Pwrpas y benthyciad yw gwella'r eiddo ar gyfer perchnogaeth barhaus, i'w werthu, ei rentu neu i ddatgloi safle gwag neu segur.  Gall gwelliannau gynnwys gwneud eiddo preswyl yn ddiogel a/neu’n gynnes.

Mae benthyciadau’n amodol ar asesiad fforddiadwyedd, cynllun busnes cadarn a'r Cyngor yn cymhwyso'r pridiant cyfreithiol angenrheidiol.  Efallai bydd costau gweinyddu; mae modd cael rhagor o wybodaeth yn ystod y cam cyflwyno Datganiad o Ddiddordeb.

Dywedodd y Cynghorydd Jamie Pritchard, Aelod Cabinet dros Ffyniant, Adfywio, a Newid yn yr Hinsawdd, “Rydyn ni’n gweithio’n galed i sicrhau bod adeiladau gwag yn cael eu defnyddio’n fuddiol eto, felly mae’r gronfa Benthyciadau Eiddo Canol Trefi yn llwybr arall rydyn ni am ei archwilio gyda busnesau lleol.  Fel rhan o'n strategaeth canol trefi, rydyn ni wedi bod yn trosi adeiladau gwag yn siopau dros dro i'w rhentu am gost isel. Mae angen i ni archwilio pob opsiwn i liniaru’r pwysau mae’r stryd fawr wedi bod yn ei wynebu ers blynyddoedd lawer.”

Byddwn ni ddarparu'r cymorth ac arweiniad i'ch cynorthwyo chi yn y broses.

Am ragor o wybodaeth ac am ffurflen gais, e-bostiwch: busnes@caerffili.gov.uk


Ymholiadau'r Cyfryngau