News Centre

Cymorth rhent i denantiaid Cartrefi Caerffili

Postiwyd ar : 17 Hyd 2024

Cymorth rhent i denantiaid Cartrefi Caerffili
Bydd tenantiaid Cartrefi Caerffili y mae cyflwyno Credyd Cynhwysol yn effeithio arnyn nhw yn gallu gwneud cais am grant caledi rhent er mwyn osgoi ôl-ddyledion.
 
Mae cynlluniau i weithredu'r grant, a fydd yn cael ei ddefnyddio i amddiffyn deiliaid contractau agored i niwed y mae rheolau wythnos 53 Credyd Cynhwysol yn effeithio arnyn nhw, wedi cael eu cymeradwyo'n unfrydol gan Gabinet Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili.
 
Mae Credyd Cynhwysol yn disodli Credyd Treth Plant, Budd-dal Tai, Cymhorthdal Incwm, Lwfans Ceisio Gwaith, Lwfans Cyflogaeth a Chymorth a Chredyd Treth Gwaith. Ni fyddwch chi'n cael eich symud yn awtomatig. Bydd y rhai sy'n cael eu heffeithio yn cael llythyr a fydd yn rhoi cyfarwyddiadau ar sut a phryd i wneud cais.
 
Mae gwahaniaeth rhwng cylchoedd talu ar gyfer Credyd Cynhwysol a Budd-dal Tai. Mae Credyd Cynhwysol yn cael ei dalu dros 52 wythnos yn unig, ond mae Budd-dal Tai yn cael ei dalu dros 53 wythnos mewn blwyddyn sydd â 53 wythnos (fel arfer bob 5-6 blynedd).    Mae hyn yn golygu na fydd y rhai sy'n cael Credyd Cynhwysol yn cael taliad ar gyfer wythnos 53 ond byddan nhw’n dal i fod yn ddyledus am wythnos o rent.
 
Dywedodd y Cynghorydd Shayne Cook, Aelod Cabinet dros Dai Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili, "Bydd symud i Gredyd Cynhwysol yn bryder i lawer o'n tenantiaid. Rydyn ni’n gweithio i gynorthwyo tenantiaid drwy'r cyfnod pontio hwn a bydd y grant caledi yn lleddfu’r effaith ar ein tenantiaid mwyaf agored i niwed."
 
Mae rhagor o wybodaeth am gyflwyno Credyd Cynhwysol ar gael yma. Gall tenantiaid Cartrefi Caerffili sydd angen cymorth wrth symud i Gredyd Cynhwysol gysylltu â'r Tîm Cymorth Tai ar 01443 811450 neu e-bostio SwyddfaCymorthTenantiaeth@caerffili.gov.uk.


Ymholiadau'r Cyfryngau