News Centre

Achosion niferus o dipio anghyfreithlon yn y Fwrdeistref Sirol

Postiwyd ar : 15 Hyd 2024

Achosion niferus o dipio anghyfreithlon yn y Fwrdeistref Sirol
Mae'r Tîm Troseddau Amgylcheddol wedi sylwi ar ymchwydd mawr yn nifer yr achosion o dipio anghyfreithlon ledled y Fwrdeistref Sirol.

Mae gwastraff y cartref yn cael ei adael yn ddiofal ar bwys ein biniau sbwriel, ac mae'n dod yn broblem ddifrifol gydag achosion rheolaidd yng nghilfannau'r A472 a'r A467.

Mae gadael bagiau o wastraff y cartref ar bwys biniau cyhoeddus yn cael ei ystyried yn dipio anghyfreithlon. Mae'r biniau hyn wedi'u dylunio ar gyfer darnau bach o sbwriel, nid ar gyfer gwastraff y cartref.

Mae tipio anghyfreithlon yn drosedd amgylcheddol ddifrifol, ac os caiff ei brofi, gallai arwain at erlyniad. Mae nid yn unig yn edrych yn hyll, ond mae hefyd yn costio swm sylweddol i drethdalwyr i'w lanhau. Gall fod yn niweidiol i'n cymunedau, bywyd gwyllt a'r amgylchedd.

I roi gwybod am dipio anghyfreithlon ac am ragor o wybodaeth, ewch i'n gwefan yma.

Mae gwaredu gwastraff yn briodol yn hynod o bwysig, ac rydyn ni'n annog trigolion i ddysgu beth sy'n mynd ym mhob un o'ch biniau. Gallwch chi ddod o hyd i wybodaeth fanwl ar ein gwefan yma.


Ymholiadau'r Cyfryngau