News Centre

Cyhoeddi enillydd Gweddillion am Arian mis Medi

Postiwyd ar : 14 Hyd 2024

Cyhoeddi enillydd Gweddillion am Arian mis Medi
Mrs Claire Jones, o Ben-yr-heol, yw enillydd ymgyrch Gweddillion am Arian Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili ym mis Medi.

Yn rhan o'r ymgyrch, mae tai yn y Fwrdeistref Sirol yn cael eu monitro, gydag un cyfranogwr ailgylchu bwyd yn cael ei ddewis ar hap bob mis i ennill £500.

Cafodd y fenter, sy'n cael ei chynorthwyo gan y sector busnes, ei lansio ym mis Mawrth 2022, gyda'r nod o gynyddu nifer y trigolion sy'n ailgylchu eu gwastraff bwyd.

Mae trigolion Bwrdeistref Sirol Caerffili sy'n rhoi eu cadi ailgylchu gwastraff bwyd allan i'w gasglu i gyd yn gymwys i ennill y wobr ariannol.

Ar hyn o bryd, mae'r Cyngor yn darparu gwasanaeth casglu gwastraff bwyd wythnosol i'r 80,000 o gartrefi ym Mwrdeistref Sirol Caerffili. Mae'r gwastraff bwyd yn cael ei gasglu a'i gludo i broses o'r enw treulio anaerobig, sy'n ei droi'n ffynhonnell ynni adnewyddadwy.

Dywedodd y Cynghorydd Chris Morgan, Aelod Cabinet dros Wastraff, Hamdden a Mannau Gwyrdd, “Llongyfarchiadau i Mrs Claire Jones, enillydd diweddaraf y fenter ailgylchu gwastraff bwyd Gweddillion am Arian.

“Hoffwn i ddiolch i'r holl drigolion hynny sy'n cymryd rhan yn y gwasanaeth casglu cadis ailgylchu gwastraff bwyd. Mae'r gwasanaeth casglu gwastraff bwyd yn cael ei ddarparu'n wythnosol ac mae'r gwastraff yn cael ei drawsnewid yn gynnyrch gwerthfawr (compost a gwrtaith) yn ogystal â chyfrannu ynni adnewyddadwy i'r Grid Cenedlaethol. Mae ailgylchu gwastraff bwyd yn rhan allweddol o ymrwymiad yr Awdurdod i ddarparu amgylchedd glanach a gwyrddach, a helpu Cymru i geisio bod y wlad orau ym maes ailgylchu.”

I gael rhagor o wybodaeth neu i wneud cais am gadi gwastraff bwyd, ewch i: https://www.caerffili.gov.uk/gwastraff-bwyd


Ymholiadau'r Cyfryngau