Drwy ddefnyddio’r safle we hwn, rydych yn cytuno i’n defnydd ni o gwcis.
Cliciwch am fwy o fanylion
.
Skip to content
Hygyrchedd
Cysylltwch â ni
Y ganolfan newyddion
Tanysgrifio
English
Search for:
Tasgau poblogaidd
Preswylydd
Busnes
Pethau i'w gwneud
Y Cyngor
Cymerwch ran
Menu
Tasgau poblogaidd
Swyddi a hyfforddiant
Prydau ysgolion cynradd
Canolfannau Hamdden
Gwiriwr Signal Ffonau Symudol
Treth y Cyngor
Casgliad bin wedi'i golli
Gwneud cais, adrodd, gofyn, talu
Ysgolion, dyddiadau tymor a chau ysgolion
Trafnidiaeth gyhoeddus – gwybodaeth a chyngor
Credyd Cynhwysol (yn lle Budd-daliadau Tai)
Chwilio, olrhain a gwneud sylwadau ar geisiadau cynllunio
Diwrnodau casglu gwastraff
Preswylydd
Busnes
Pethau i'w gwneud
Y Cyngor
Cymerwch ran
Newyddion
Newyddion
Hydref 2024
Cymorth rhent i denantiaid Cartrefi Caerffili
News Centre
Cymorth rhent i denantiaid Cartrefi Caerffili
Postiwyd ar : 17 Hyd 2024
Bydd tenantiaid Cartrefi Caerffili y mae cyflwyno Credyd Cynhwysol yn effeithio arnyn nhw yn gallu gwneud cais am grant caledi rhent er mwyn osgoi ôl-ddyledion.
Mae cynlluniau i weithredu'r grant, a fydd yn cael ei ddefnyddio i amddiffyn deiliaid contractau agored i niwed y mae rheolau wythnos 53 Credyd Cynhwysol yn effeithio arnyn nhw, wedi cael eu cymeradwyo'n unfrydol gan Gabinet Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili.
Mae Credyd Cynhwysol yn disodli Credyd Treth Plant, Budd-dal Tai, Cymhorthdal Incwm, Lwfans Ceisio Gwaith, Lwfans Cyflogaeth a Chymorth a Chredyd Treth Gwaith. Ni fyddwch chi'n cael eich symud yn awtomatig. Bydd y rhai sy'n cael eu heffeithio yn cael llythyr a fydd yn rhoi cyfarwyddiadau ar sut a phryd i wneud cais.
Mae gwahaniaeth rhwng cylchoedd talu ar gyfer Credyd Cynhwysol a Budd-dal Tai. Mae Credyd Cynhwysol yn cael ei dalu dros 52 wythnos yn unig, ond mae Budd-dal Tai yn cael ei dalu dros 53 wythnos mewn blwyddyn sydd â 53 wythnos (fel arfer bob 5-6 blynedd). Mae hyn yn golygu na fydd y rhai sy'n cael Credyd Cynhwysol yn cael taliad ar gyfer wythnos 53 ond byddan nhw’n dal i fod yn ddyledus am wythnos o rent.
Dywedodd y Cynghorydd Shayne Cook, Aelod Cabinet dros Dai Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili, "Bydd symud i Gredyd Cynhwysol yn bryder i lawer o'n tenantiaid. Rydyn ni’n gweithio i gynorthwyo tenantiaid drwy'r cyfnod pontio hwn a bydd y grant caledi yn lleddfu’r effaith ar ein tenantiaid mwyaf agored i niwed."
Mae rhagor o wybodaeth am gyflwyno Credyd Cynhwysol ar gael
yma
. Gall tenantiaid Cartrefi Caerffili sydd angen cymorth wrth symud i Gredyd Cynhwysol gysylltu â'r Tîm Cymorth Tai ar 01443 811450 neu e-bostio
SwyddfaCymorthTenantiaeth@caerffili.gov.uk
.
Rhannwch y dudalen hon :
Rhannwch ar Facebook
Rhannwch ar Twitter
Newyddion Diweddar
Cymorth rhent i denantiaid Cartrefi Caerffili
Cytunodd y Cabinet i ymgynghori â thrigolion ar ddyfodol y Gwasanaeth Llyfrgell
Trawsnewid Trefi: cymorth i wella canol trefi
Achosion niferus o dipio anghyfreithlon yn y Fwrdeistref Sirol
Cyhoeddi enillydd Gweddillion am Arian mis Medi
Ymholiadau'r Cyfryngau
Cyfeiriad E-bost
Ffôn
Cyfeiriad
Gwasanaethau A i Y
A
B
C
Ch
D
Dd
E
F
Ff
G
Ng
H
I
L
Ll
M
N
O
P
Ph
R
Rh
S
T
Th
U
W
Y