News Centre

Cytunodd y Cabinet i ymgynghori â thrigolion ar ddyfodol y Gwasanaeth Llyfrgell

Postiwyd ar : 16 Hyd 2024

Cytunodd y Cabinet i ymgynghori â thrigolion ar ddyfodol y Gwasanaeth Llyfrgell
Cyfarfu Cabinet Caerffili heddiw, 16 Hydref, a chymeradwyodd adroddiad i lansio ymgynghoriad cyhoeddus ar gynllun beiddgar i drawsnewid y ffordd y caiff Gwasanaeth Llyfrgell y Cyngor ei ddarparu yn y dyfodol.
 
Mae'r Cyngor yn wynebu heriau ariannol sylweddol yn ystod y blynyddoedd nesaf ac mae'n rhaid iddo arbed £45 miliwn i fantoli'r gyllideb. Mae nifer o wasanaethau'n cael eu hadolygu er mwyn nodi arbedion a sicrhau enillion o ran effeithlonrwydd. 
 
Ar hyn o bryd, mae Caerffili yn gweithredu 18 o lyfrgelloedd ar wahân ledled y Fwrdeistref Sirol – un o'r niferoedd uchaf o safleoedd yng Nghymru. Mae’r Cyngor hefyd yn cynnig gwasanaeth ‘LibraryLink’ arbennig a gwasanaeth llyfrgell digidol, gyda chyllideb gyffredinol o £3.4 miliwn ar gyfer llyfrgelloedd.
 
Mae’r ymgynghoriad, sydd am gael ei lansio ar 22 Hydref am gyfnod o chwe wythnos a bydd yn casglu barn y cyhoedd ar y weledigaeth strategol ddrafft sydd i’w gweld yma – Drafft Weledigaeth Strategol
 
Gofynnir i drigolion ddweud eu dweud ar y 4 amcan allweddol;
 
Gwella a datblygu’r gwasanaethau llyfrgelloedd a’r arlwy sydd ar gael.
Helpu trigolion i gael mynediad at wybodaeth, cyngor, a chymorth mewn lleoliad Hwb.
Rhoi anghenion y gymuned wrth galon ein hybiau canol trefi, er mwyn cynorthwyo ac annog rhagor o wytnwch i unigolion trwy gymorth a chyfeirio.
Rhesymoli nifer yr adeiladau i wneud y mwyaf o adnoddau a gwella'r arlwy cyffredinol. 
 
Bydd yr ymgynghoriad yn helpu’r Cyngor i ddeall anghenion y gymuned yn well er mwyn llywio datblygiad y weledigaeth Hwb – model sydd wedi'i brofi’n llwyddiannus ar safle Hwb poblogaidd y llyfrgell yn Rhymni.
 
Mae'r weledigaeth yn nodi y byddai datblygu'r model Hwb yn arwain at leihau lleoliadau llyfrgelloedd yn gyffredinol, er mwyn galluogi'r Cyngor i ganolbwyntio ar ddatblygu hybiau canol tref gwell gan ddarparu dull siop-un-stop ar gyfer gwasanaethau cymunedol.
 
Dywedodd yr Aelod Cabinet â chyfrifoldeb am Wasanaethau Llyfrgelloedd, y Cynghorydd Carol Andrews, “Wrth archwilio’r weledigaeth ar gyfer dyfodol y gwasanaeth llyfrgelloedd, roedd yn amlwg eu bod nhw eisoes wedi dod yn llawer mwy na lleoedd i fenthyca a darllen llyfrau.
 
Rydyn ni wedi gweld sut mae esblygiad gwasanaethau digidol wedi gwella’r arlwy a chreu gwasanaethau sy’n llawer mwy cynhwysol. Rydyn ni am fynd â hynny un cam ymhellach a chreu amgylchedd Hwb sy’n gweithredu fel siop-un-stop i drigolion. Gofod cynnes a chroesawgar sy’n darparu mynediad parod at wasanaethau mewn lleoliad canol tref gyda mynediad hawdd at gysylltiadau trafnidiaeth lleol”.
 
Aeth ymlaen i ddweud, “Mae’n amlwg bod y pwysau ariannol wedi ein harwain ni i ystyried yr opsiynau i ddiogelu’r gwasanaeth ar gyfer y dyfodol ac mae hynny’n cynnwys y posibilrwydd o resymoli nifer y safleoedd sydd gennym ni. Dyna pam ei bod yn bwysig iawn i ni geisio amrywiaeth eang o safbwyntiau ar y cynnig, er mwyn i ni allu cael gwell dealltwriaeth o anghenion ein trigolion.”
 
Bydd yr arolwg ar-lein yn cael ei ryddhau ar wefan CBSC ar 22 Hydref yn ogystal â manylion y sesiynau galw heibio personol.


Ymholiadau'r Cyfryngau