Drwy ddefnyddio’r safle we hwn, rydych yn cytuno i’n defnydd ni o gwcis.
Cliciwch am fwy o fanylion
.
Skip to content
Hygyrchedd
Cysylltwch â ni
Y ganolfan newyddion
Tanysgrifio
English
Search for:
Tasgau poblogaidd
Preswylydd
Busnes
Pethau i'w gwneud
Y Cyngor
Cymerwch ran
Menu
Tasgau poblogaidd
Swyddi a hyfforddiant
Prydau ysgolion cynradd
Canolfannau Hamdden
Etholiad Cyffredinol 2024
Treth y Cyngor
Casgliad bin wedi'i golli
Gwneud cais, adrodd, gofyn, talu
Ysgolion, dyddiadau tymor a chau ysgolion
Trafnidiaeth gyhoeddus – gwybodaeth a chyngor
Credyd Cynhwysol (yn lle Budd-daliadau Tai)
Chwilio, olrhain a gwneud sylwadau ar geisiadau cynllunio
Diwrnodau casglu gwastraff
Preswylydd
Busnes
Pethau i'w gwneud
Y Cyngor
Cymerwch ran
Newyddion
Newyddion
Mehefin 2024
Sicrhewch eich bod chi wedi cofrestru i bleidleisio yn yr Etholiad Cyffredinol sydd ar ddod
News Centre
Sicrhewch eich bod chi wedi cofrestru i bleidleisio yn yr Etholiad Cyffredinol sydd ar ddod
Postiwyd ar : 07 Meh 2024
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili yn annog trigolion i sicrhau eu bod nhw wedi cofrestru i bleidleisio ar gyfer yr Etholiad Cyffredinol.
Ddydd Iau 4 Gorffennaf, bydd pleidleiswyr yn mynd i'r gorsafoedd pleidleisio i ethol Aelod Seneddol (AS).
Os nad ydych chi ar y gofrestr etholiadol, ni fyddwch chi'n gallu pleidleisio. Y dyddiad cau ar gyfer cofrestru i bleidleisio yw 23:59 ddydd Mawrth 18 Mehefin. Gallwch chi wneud cais ar-lein mewn pum munud:
https://www.gov.uk/cofrestru-i-bleidleisio
Os nad ydych chi'n gallu pleidleisio mewn gorsaf pleidleisio ddydd Iau 4 Gorffennaf, gallwch chi
wneud cais i bleidleisio drwy'r post
. Mae pleidleisio drwy'r post yn ffordd amgen gyfleus o bleidleisio yn lle pleidleisio'n bersonol.
Mae pleidleisio drwy ddirprwy yn eich galluogi chi i enwebu rhywun arall i bleidleisio ar eich rhan. Y dyddiad cau i
wneud cais i bleidleisio drwy ddirprwy
yw 5pm ddydd Mercher 26 Mehefin.
Os ydych chi'n bwriadu pleidleisio mewn gorsaf bleidleisio, rhaid i chi ddod â dull adnabod â llun. Ni fyddwch chi'n gallu pleidleisio hebddo. Mae rhestr o'r dulliau adnabod cydnabyddedig ar gael ar
Wefan y Comisiwn Etholiadol
. Os nad oes gennych chi ddull adnabod â llun cymwys, gwnewch gais am
Dystysgrif Awdurdod Pleidleisiwr
am ddim erbyn 5pm ddydd Mercher 26 Mehefin.
Bydd gorsafoedd pleidleisio ar agor o 7am tan 10pm ddydd Iau 4 Gorffennaf. Bydd cardiau pleidleisio yn cael eu hanfon i bawb sy'n gymwys i bleidleisio. Bydd y cerdyn pleidleisio yn rhoi manylion eich gorsaf bleidleisio.
Rhestr o ddyddiadau allweddol:
Dydd Gwener 7 Mehefin: Cyhoeddi'r sawl a enwebwyd.
Dydd Mawrth 18 Mehefin: Dyddiad cau ar gyfer cofrestru i bleidleisio.
Dydd Mercher 19 Mehefin: Dyddiad cau ar gyfer gwneud cais newydd i bleidleisio drwy'r post neu i newid/ganslo trefniant presennol i bleidleisio drwy’r post neu ddirprwy.
Dydd Mercher 26 Mehefin: Dyddiad cau ar gyfer gwneud cais i bleidleisio drwy ddirprwy.
Dydd Mercher 26 Mehefin: Dyddiad cau ar gyfer gwneud cais am Ddull Adnabod Pleidleisiwr am ddim.
Dydd Iau 4 Gorffennaf: Etholiad Cyffredinol.
Rhannwch y dudalen hon :
Rhannwch ar Facebook
Rhannwch ar Twitter
Newyddion Diweddar
Cynnig i Ffedereiddio Ysgol Fabanod Cwmaber ac Ysgol Iau Cwmaber
Enwebiadau ar agor ar gyfer Gwobrau Gwirfoddolwyr Cymdeithas Mudiadau Gwirfoddol Gwent 2024
Miloedd o ymwelwyr wedi dod at ei gilydd yng nghanol tref Caerffili ar gyfer Pride Caerffili
Ysgol Gynradd y Twyn yn dathlu agor maes chwarae newydd yn dilyn ymdrechion llwyddiannus gan ddisgyblion i godi arian
A469 Rhwng Pontlotyn a Tirphil – Ffordd ar gau
Ymholiadau'r Cyfryngau
Cyfeiriad E-bost
Ffôn
Cyfeiriad
Gwasanaethau A i Y
A
B
C
Ch
D
Dd
E
F
Ff
G
Ng
H
I
L
Ll
M
N
O
P
Ph
R
Rh
S
T
Th
U
W
Y