News Centre

Enwebiadau ar agor ar gyfer Gwobrau Gwirfoddolwyr Cymdeithas Mudiadau Gwirfoddol Gwent 2024

Postiwyd ar : 26 Meh 2024

Enwebiadau ar agor ar gyfer Gwobrau Gwirfoddolwyr Cymdeithas Mudiadau Gwirfoddol Gwent 2024

Mae enwebiadau ar agor ar gyfer Gwobrau Gwirfoddolwyr Cymdeithas Mudiadau Gwirfoddol Gwent eleni.

Mae'r seremoni wobrwyo flynyddol sy'n dathlu gwaith anhygoel gwirfoddolwyr ledled Blaenau Gwent, Caerffili, Sir Fynwy a Chasnewydd yn cael ei chynnal ym mis Medi a mis Hydref eleni i ddiolch i'r rheini sy'n cael effaith gadarnhaol ar ein cymunedau.

Gall unigolion a grwpiau gael eu henwebu ar gyfer y categorïau canlynol:

  • Ymddiriedolwr a Chyfarwyddwr
  • Cynaliadwyedd Bwyd
  • Chwaraeon a Hamdden
  • Eiriolwr Cymunedol
  • Amgylcheddol
  • Person Ifanc Ysbrydoledig (14-25 oed)
  • Hyrwyddwr Teulu
  • Iechyd a Lles
  • Taith Ysbrydoledig
  • Diwylliant a Threftadaeth

Bydd un enillydd ac un ail orau yn cael eu dewis ar gyfer pob categori gan banel o gynrychiolwyr cymunedol lleol, a byddan nhw'n cael eu gwahodd i fynychu'r seremoni wobrwyo ranbarthol yn ddiweddarach yn y flwyddyn. 

Gallwch chi wneud enwebiadau drwy glicio yma a llenwi'r ffurflen ar-lein.

Y dyddiad cau ar gyfer enwebiadau yw 5pm ddydd Gwener 19 Gorffennaf.

Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau neu am ragor o wybodaeth, cysylltwch â ni ar volunteering@gavo.org.uk



Ymholiadau'r Cyfryngau