News Centre

Miloedd o ymwelwyr wedi dod at ei gilydd yng nghanol tref Caerffili ar gyfer Pride Caerffili

Postiwyd ar : 21 Meh 2024

Miloedd o ymwelwyr wedi dod at ei gilydd yng nghanol tref Caerffili ar gyfer Pride Caerffili
Roedd Pride Caerffili yn ôl ddydd Sadwrn 15 Mehefin am yr ail flwyddyn yn olynol. Croesawodd canol y dref a chanolfan siopa Cwrt y Castell nifer rhagorol o ymwelwyr ar y diwrnod – 21,482.
 
Roedd canol y dref wedi'i llenwi â fflagiau'r enfys a baneri i ddathlu er ei bod hi’n bygwth glaw. Roedd nifer o sefydliadau gan gynnwys DS Smith, Cynghorau Balch, Menter Iaith Caerffili a Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru wedi ymuno yn y dathliadau ar y diwrnod, ynghyd ag elusennau a chlybiau lleol.
 
Dechreuodd y dathliad diwrnod llawn gyda gorymdaith drwy ganol y dref a ddechreuodd yn Ysgol Sant Martin. Roedd yr orymdaith wedi croesawu pobl o bob cymuned a gerddodd i lawr Cardiff Road a gorffen ym maes parcio'r Twyn ar gyfer adloniant cyffrous.
 
Roedd Côr Meibion Hoyw De Cymru, Myst Fortune a Vanity Act ymhlith y nifer o berfformwyr a gamodd i'r llwyfan adloniant gyda Miss Tina Sparkle a Catrin Feelings yn cyflwyno'r rhaglen adloniant drwy gydol y dydd. Roedd stondinau bwyd a diod ar hyd yr ardal, gyda stondinau gwybodaeth y tu allan i Ganolfan Gymunedol y Twyn gan wneud y digwyddiad yn ddathliad llawn.
 
Dywedodd llefarydd ar ran y Cyngor, "Mae eleni'n nodi'r ail ddigwyddiad Pride Caerffili ac mae'n wych gweld cymaint o bobl ar y strydoedd ac yn cymryd rhan yn yr orymdaith. Rydyn ni'n falch iawn o hyrwyddo cymuned o gynwysoldeb a dathlu’r gymuned LHDTC+ a chyfeillion."
 
Hoffen ni ddiolch i'n noddwyr, gwirfoddolwyr a sefydliadau partner am eu cymorth parhaus i'r digwyddiad.


Ymholiadau'r Cyfryngau