News Centre

Cynnig i Ffedereiddio Ysgol Fabanod Cwmaber ac Ysgol Iau Cwmaber

Postiwyd ar : 26 Meh 2024

Cynnig i Ffedereiddio Ysgol Fabanod Cwmaber ac Ysgol Iau Cwmaber
Yn ystod cyfarfod a gafodd ei gynnal ddydd Mercher 5 Mehefin, fe wnaeth aelodau Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili gytuno i ymgynghoriad ffurfiol ar y cynnig i ffedereiddio Ysgol Fabanod Cwmaber ac Ysgol Iau Cwmaber.

Mae ffedereiddio ysgolion yn broses gyfreithiol sy'n galluogi ysgolion i gydweithio drwy broses strwythuredig ffurfiol drwy rannu corff llywodraethu a fydd yn gwneud penderfyniadau er lles gorau'r holl ysgolion, staff a disgyblion yn y ffederasiwn hwnnw.

Mae Ysgol Fabanod Cwmaber ac Ysgol Iau Cwmaber wedi bod yn cydweithredu'n anffurfiol ers mis Medi 2020, gyda'r ddwy ysgol yn rhannu'r un pennaeth. Mae corff llywodraethu'r ddwy ysgol wedi gofyn i fwrw ymlaen ag ymgynghoriad ffurfiol ar gyfer statws ffedereiddio ffurfiol mewn partneriaeth â'r Awdurdod Lleol.

Dywedodd Keri Cole, Prif Swyddog Addysg, "Rydyn ni wrth ein bodd gyda'r penderfyniad i ymgynghori’n ffurfiol ar ffedereiddio Ysgol Fabanod Cwmaber ac Ysgol Iau Cwmaber.

"Bydd y ffedereiddio o fudd i ddisgyblion y ddwy ysgol, gan greu darpariaeth barhaus o'r blynyddoedd cynnar tan ddiwedd eu haddysg gynradd."

Yn dilyn cymeradwyaeth y Cabinet, cam nesaf y broses fyddai dechrau'r broses ymgynghori.  Mae disgwyl i hyn ddechrau'n gynnar yn nhymor yr hydref ac, os bydd y cynnig yn cael ei gymeradwyo, mae disgwyl iddo ddod i rym o ddechrau tymor Ionawr 2025.
 


Ymholiadau'r Cyfryngau