News Centre

Ysgol Gynradd y Twyn yn dathlu agor maes chwarae newydd yn dilyn ymdrechion llwyddiannus gan ddisgyblion i godi arian

Postiwyd ar : 20 Meh 2024

Ysgol Gynradd y Twyn yn dathlu agor maes chwarae newydd yn dilyn ymdrechion llwyddiannus gan ddisgyblion i godi arian
Mae Ysgol Gynradd y Twyn yn falch iawn o gyhoeddi agoriad llwyddiannus ei maes chwarae newydd, yn dilyn ymgyrch codi arian anhygoel dan arweiniad ei disgyblion.  Cafodd y maes chwarae ei agor yn swyddogol ddydd Mawrth 5 Mehefin, diolch i ymdrechion cyfunol yr ysgol a’r gymuned leol.

Cododd y disgyblion swm trawiadol o £11,000 tuag at y targed o £20,000 drwy gymryd rhan yn ras 2 gilomedr Caerffili Bryn Meadows ar 12 Mai.  Cafodd eu hymroddiad a'u gwaith caled eu cydnabod ymhellach gyda thocyn rhodd gwerth £100 gan Chwaraeon Caerffili, yn wobr am fod â'r nifer uchaf o gystadleuwyr yn y ras ymhlith ysgolion lleol.

Mynegodd y Pennaeth Lee Thomas ei falchder yn y disgyblion a'r gymuned ehangach,  "Roedd yr hen faes chwarae yn cwympo'n ddarnau ac nid oedd yn addas i'r plant chwarae arno am gyfnod sylweddol o amser. Rydw i’n hynod falch o'n disgyblion am eu gwaith caled a'u penderfyniad i godi swm mor sylweddol o arian. Mae’r llawenydd y mae’r maes chwarae newydd hwn wedi’i roi i’r plant yn anfesuradwy, ac mae’n dyst i gryfder ac undod ein cymuned.”

Fe wnaeth Jared Lougher, Rheolwr Datblygu Chwaraeon a Hamdden, hefyd bwysleisio pwysigrwydd digwyddiadau cymunedol,  "Rydw i'n falch bod y digwyddiad wedi gallu cynorthwyo ysgolion lleol a'r gymuned gan ddod â phawb at ei gilydd i gyflawni eu nodau.  Mae hwn yn rheswm mawr pam rydyn ni'n cynnal digwyddiadau fel Ras 10 Cilomedr a 2 Cilomedr Caerffili gan eu bod nhw'n darparu llwyfan mor gadarnhaol i'r gymuned."

Mae Ysgol Gynradd y Twyn yn diolch o galon i bawb a gyfrannodd at y prosiect llwyddiannus hwn, gan gynnwys disgyblion, rhieni, staff, ac aelodau’r gymuned.  Mae’r maes chwarae newydd nid yn unig yn lle mwy diogel a phleserus i'r plant, ond mae hefyd yn symbol o'r hyn sy'n gallu cael ei gyflawni trwy waith tîm a dyfalbarhad.

I gofrestru ar gyfer ras y flwyddyn nesaf, ewch i www.caerphilly10k.co.uk neu am ragor o wybodaeth, cysylltwch â 10Cilomedr@caerffili.gov.uk.


Ymholiadau'r Cyfryngau