Marciau uchel ar gyfer gwasanaeth ysgolion CBSC
Postiwyd ar : 02 Medi 2024
Mae gwasanaeth addysg Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili wedi derbyn adroddiad disglair yn dilyn arolygiad mawr.
Cynhaliodd Estyn, corff gwarchod addysg Cymru, arolygiad manwl o wasanaeth addysg y Cyngor yn ôl ym mis Mehefin. Treuliodd y tîm arolygu wythnos ym mhencadlys y Cyngor, yn cyfweld ag ystod o randdeiliaid allweddol ac yn adolygu llawer iawn o ddata a gwybodaeth am berfformiad.
Mae’r adroddiad arolygu dilynol, a gafodd ei gyhoeddi heddiw (Dydd Llun 2 Medi), yn cynnwys llawer o ganfyddiadau cadarnhaol am bob agwedd ar wasanaeth addysg y Cyngor.
Dywedodd y Cynghorydd Carol Andrews, Aelod Cabinet dros Addysg CBSC, “Rydyn ni’n croesawu canfyddiadau’r arolygiad sylweddol hwn yn fawr a hoffwn i ddiolch i bawb sydd wedi gweithio mor galed i gyfrannu at y canlyniad cadarnhaol hwn.
Mae’n amlwg bod ethos o wella parhaus wedi’i fabwysiadu gan yr AALl, ein hysgolion a’n partneriaid ar draws y Fwrdeistref Sirol gyfan.”
Canmolodd yr adroddiad arweinyddiaeth y gwasanaeth addysg a’r perthnasoedd cadarnhaol sydd wedi’u datblygu, yn ogystal â’r cymorth sy’n cael ei ddarparu i ysgolion ar draws yr ardal. Cafodd prosesau diogelu a chynnig cymorth i ddisgyblion ag anghenion dysgu ychwanegol hefyd eu nodi fel cryfderau allweddol yn yr adroddiad.
“Mae’r adborth a dderbyniwyd gan dîm Estyn yn gymeradwyaeth gadarnhaol o’n strategaeth addysg uchelgeisiol o’r enw ‘dilyn rhagoriaeth gyda’n gilydd’ a byddwn ni bellach yn meithrin ein llwyddiannau, tra hefyd yn mynd i’r afael ag unrhyw feysydd sydd angen eu cryfhau.”
“Hoffwn i roi sicrwydd i’r gymuned gyfan y byddwn ni’n parhau i gyd-weithio fel Tîm Caerffili i sicrhau’r canlyniadau gorau i’n holl ddysgwyr,” ychwanegodd y Cynghorydd Andrews.
Mae gan Gaerffili 27,576 o ddisgyblion ar draws 86 o ysgolion, gan gynnwys 73 o ysgolion cynradd, un ysgol pob oed, 11 ysgol uwchradd, ac un ysgol arbennig. O'r ysgolion hyn, mae 12 yn ddarparwyr cyfrwng Cymraeg.
Mae'r adroddiad llawn Estyn ar gael yma: https://www.estyn.llyw.cymru/app/uploads/2024/08/Adroddiad-arolygiad-Cyngor-Bwrdeistref-Sirol-Caerffili-2024.pdf