News Centre

Gŵyl Fwyd gyntaf Rhisga yn llwyddiant ysgubol

Postiwyd ar : 24 Medi 2024

Gŵyl Fwyd gyntaf Rhisga yn llwyddiant ysgubol
Roedd Parc Tredegar yn gartref i’r Ŵyl Fwyd Rhisga gyntaf ddydd Sadwrn 14 Medi.

Roedd yr Ŵyl Fwyd yn cynnwys llwyth o ddanteithion blasus, arddangosiadau coginio, reidiau ffair a digonedd o weithgareddau eraill i’r miloedd o ymwelwyr eu mwynhau.

Cafodd 3,500 o ymwelwyr eu cofnodi yn y digwyddiad drwy nifer yr ymwelwyr yng nghanol y dref a rhai o gatiau mynediad y parc.

Roedd llawer o fasnachwyr yn yr Ŵyl Fwyd wedi gwerthu popeth erbyn canol dydd ac fe gafodd llawer o fusnesau lleol gefnogaeth dda hefyd.

Dyma’r hyn a ddywedodd busnesau a masnachwyr lleol am yr Ŵyl Fwyd:

Dywedodd Eleri’s Welshcakes, “Cawson ni ddiwrnod hollol wych – digwyddiad arbennig.”

Meddai Aga Farm, “Am ddiwrnod ffantastig! Ac am leoliad hyfryd, roedd yn teimlo mor drefnus ac roeddwn i wrth fy modd gyda chynllun y lle. Roedd yr awyrgylch yn grêt.”

Dywedodd Snug Coffee Shop, “Am ddiwrnod bendigedig! Roedd hi’n wych gweld cymaint o bobl yn mwynhau'r lle. Roedd yr holl le i eistedd yn wych ac roedd yr ardal grefftau/goginio i’r plant yn syniad penigamp. Roedd rhywbeth i’w weld lle bynnag roeddech chi’n edrych, ac fe werthon ni fwy nag erioed! Diolch yn fawr iawn i’r Tîm Digwyddiadau.”

Dywedodd Cymdeithas Adeiladu Sir Fynwy hefyd, “Roedden ni’n hapus i gymryd rhan ac roedden ni’n meddwl ei fod yn ddiwrnod da i’r gymuned. Roedd y presenoldeb yn dda iawn ac roedd yn braf gweld y gymuned yn dod at ei gilydd a mwynhau’r amrywiaeth o stondinau.”

Dywedodd y Cynghorydd Jamie Pritchard, Aelod Cabinet dros Ffyniant, Adfywio, a Newid yn yr Hinsawdd hefyd, “Mae’r adborth sydd wedi dod i law yn gadarnhaol ac yn galonogol iawn. Roedd yn ddiwrnod llwyddiannus iawn yn Rhisga, gyda miloedd o bobl yn dod i’r dref. Diolch i’r holl ymwelwyr a busnesau am gefnogi’r digwyddiad.”


Ymholiadau'r Cyfryngau