Drwy ddefnyddio’r safle we hwn, rydych yn cytuno i’n defnydd ni o gwcis.
Cliciwch am fwy o fanylion
.
Skip to content
Hygyrchedd
Cysylltwch â ni
Y ganolfan newyddion
Tanysgrifio
English
Search for:
Tasgau poblogaidd
Preswylydd
Busnes
Pethau i'w gwneud
Y Cyngor
Cymerwch ran
Menu
Tasgau poblogaidd
Swyddi a hyfforddiant
Prydau ysgolion cynradd
Canolfannau Hamdden
Gwiriwr Signal Ffonau Symudol
Treth y Cyngor
Casgliad bin wedi'i golli
Gwneud cais, adrodd, gofyn, talu
Ysgolion, dyddiadau tymor a chau ysgolion
Trafnidiaeth gyhoeddus – gwybodaeth a chyngor
Credyd Cynhwysol (yn lle Budd-daliadau Tai)
Chwilio, olrhain a gwneud sylwadau ar geisiadau cynllunio
Diwrnodau casglu gwastraff
Preswylydd
Busnes
Pethau i'w gwneud
Y Cyngor
Cymerwch ran
Newyddion
Newyddion
Medi 2024
Canolfan Hamdden Heolddu yn cyflwyno hyfforddiant achub bywydau fforddiadwy ar gyfer cyfleoedd gyrfa
News Centre
Canolfan Hamdden Heolddu yn cyflwyno hyfforddiant achub bywydau fforddiadwy ar gyfer cyfleoedd gyrfa newydd.
Postiwyd ar : 24 Medi 2024
Mae Canolfan Hamdden Heolddu yn falch o gyhoeddi lansio cwrs hyfforddi achub bywydau fforddiadwy, wedi’i ddylunio ar gyfer unigolion sy’n chwilio am newid gyrfa gwerth chweil neu am gyfleoedd gwaith ychwanegol.
Am £49 yn unig, gall cyfranogwyr gychwyn ar daith 13 wythnos yn dechrau ar 14 Hydref, gan ennill sgiliau achub bywydau hanfodol a all baratoi'r ffordd at ddyfodol yn y diwydiant Chwaraeon a Hamdden. Bydd y cwrs yn rhedeg bob dydd Llun am 13 wythnos, gan ddarparu hyfforddiant cynhwysfawr sy'n cynnwys technegau achub bywydau hanfodol, adfywio cardio-pwlmonaidd (CPR) a chymorth cyntaf. Mae hwn yn gyfle gwych i'r rhai sydd â diddordeb mewn cael effaith sylweddol wrth ddilyn llwybr gyrfa newydd neu wella eu set sgiliau bresennol.
I gymryd rhan yn y cwrs, rhaid i ymgeiswyr fodloni'r gofynion nofio canlynol:
Nofio 100 metr yn barhaus ar eich cefn ac yn eich blaen.
Nofio 50 metr mewn 60 eiliad.
Nofio yn eich unfan am 30 eiliad.
Nofio 20 metr gyda bwi torpido.
Mae'r hyfforddiant trylwyr hwn wedi'i gynllunio i sicrhau bod cyfranogwyr wedi'u paratoi'n dda ar gyfer rolau achub bywydau a'u bod nhw’n gallu ymdrin â sefyllfaoedd bywyd go iawn yn hyderus.
Rydyn ni’n annog y rhai sydd â diddordeb mewn cofrestru ar y cwrs i wneud hynny’n gyflym, gan fod lleoedd yn gyfyngedig. I gael rhagor o wybodaeth neu i sicrhau lle, cysylltwch â’r dderbynfa yng Nghanolfan Hamdden Heolddu ar 01443 828950 neu drwy e-bost i CHHeolddu@caerffili.gov.uk.
Peidiwch â cholli’r cyfle hwn i ennill cymhwyster gwerthfawr a dechrau gyrfa newydd mewn achub bywydau.
Rhannwch y dudalen hon :
Rhannwch ar Facebook
Rhannwch ar Twitter
Newyddion Diweddar
Gwasanaeth Prydau Prydlon i barhau
Gŵyl Fwyd gyntaf Rhisga yn llwyddiant ysgubol
Canolfan Hamdden Heolddu yn cyflwyno hyfforddiant achub bywydau fforddiadwy ar gyfer cyfleoedd gyrfa newydd.
Busnesau lleol ym Mharc Busnes a Thechnoleg Tredomen yn cael hwb ffibr llawn gan Ogi
Dweud eich dweud ar gludiant rhwng y cartref a'r ysgol
Ymholiadau'r Cyfryngau
Cyfeiriad E-bost
Ffôn
Cyfeiriad
Gwasanaethau A i Y
A
B
C
Ch
D
Dd
E
F
Ff
G
Ng
H
I
L
Ll
M
N
O
P
Ph
R
Rh
S
T
Th
U
W
Y