News Centre

Gwasanaeth Prydau Prydlon i barhau

Postiwyd ar : 25 Medi 2024

Gwasanaeth Prydau Prydlon i barhau

Mae disgwyl i wasanaeth dosbarthu prydau bwyd, sy'n darparu cymorth i drigolion hŷn ac agored i niwed ledled Bwrdeistref Sirol Caerffili, barhau, yn dilyn penderfyniad gan Gabinet y Cyngor yr wythnos hon.

Roedd dyfodol y gwasanaeth Prydau Prydlon yn cael ei adolygu fel rhan o ymdrechion y Cyngor i lenwi bwlch gwerth £45 miliwn yn ei gyllideb yn ystod y ddwy flynedd nesaf. Mae'r gwasanaethau sy'n cael y lefel uchaf o gymhorthdal yn cael eu hadolygu – mae'r gwasanaeth Prydau Prydlon yn cael cymhorthdal gwerth £444,000 bob blwyddyn.

Cafodd trigolion a defnyddwyr y gwasanaeth gyfle i ddweud eu dweud am y cynnig yn ystod ymarfer ymgynghori mawr a gafodd ei gynnal yn ystod y misoedd diwethaf.

Fe wnaeth Cabinet y Cyngor gyfarfod yr wythnos hon i ystyried yr adborth, ac fe wnaethon nhw gytuno i barhau i ddarparu'r gwasanaeth, wrth ddatblygu dewis o opsiynau eraill i sicrhau bod y broses o ddarparu'r gwasanaeth Prydau Prydlon yn gynaliadwy yn y tymor hir.

Hefyd, cafodd penderfyniad ei wneud i gau Caffi'r Su, sef gwasanaeth i staff y Cyngor a'r Aelodau Etholedig, yn Nhŷ Penallta.

Dywedodd y Cynghorydd Sean Morgan, Arweinydd y Cyngor, “Rwy'n siŵr y bydd trigolion a defnyddwyr y gwasanaeth yn croesawu'r penderfyniad hwn, sy'n dangos yn glir ein bod ni wedi gwrando ar yr adborth gan y gymuned ac wedi ymateb yn unol â hynny.

“Byddwn ni nawr yn gweithio'n agos gyda'r tîm Prydau Prydlon i adolygu ac ad-drefnu'r gwasanaeth yn y dyfodol, fel na fydd angen y lefel uchel bresennol o gymhorthdal. Byddwn ni, wrth gwrs, yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i ddefnyddwyr y gwasanaeth drwy gydol y broses hon.

“Bydd llawer o bobl yn croesawu'r newyddion hyn, ond mae'n bwysig nodi bod gennym ni darged eithriadol i'w gyrraedd o hyd o ran arbedion, a bydd yn rhaid i ni nawr ystyried opsiynau eraill i sicrhau arbedion. Yn anffodus, mae rhagor o benderfyniadau anodd o'n blaenau ni o hyd.”

Yn ystod yr un cyfarfod, fe wnaeth y Cabinet gytuno i gau Maenordy Llancaiach Fawr ddiwedd mis Rhagfyr eleni ac archwilio opsiynau ar gyfer rhedeg y cyfleuster mewn ffordd wahanol yn y dyfodol.

Dywedodd y Cynghorydd Sean Morgan, “Rydyn ni'n sylweddoli y bydd llawer o bobl wedi'u siomi gan y penderfyniad hwn, ond nid yw'r cymhorthdal presennol, sydd werth £485,000, i redeg y safle, yn gynaliadwy yn yr hinsawdd ariannol bresennol. Cafodd penderfyniad tebyg ei wneud yn gynharach eleni i gau Coffi Vista, yng Nghaerffili, ac rydyn ni nawr yn edrych ymlaen at weld yr adeilad hwnnw'n ailagor gyda dyfodol newydd, cyffrous, heb fod angen cymhorthdal gan y Cyngor. Dyma'r hyn rydyn ni'n gobeithio ei efelychu ym Maenordy Llancaiach Fawr.”



Ymholiadau'r Cyfryngau