News Centre

Yr Arweinydd yn rhybuddio am benderfyniadau anodd o'n blaenau

Postiwyd ar : 18 Medi 2024

Yr Arweinydd yn rhybuddio am benderfyniadau anodd o'n blaenau

Mae Arweinydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili yn paratoi'r gymuned am nifer o benderfyniadau anodd, wrth i'r Cyngor weithio'n galed i lenwi bwlch gwerth £45 miliwn yn ei gyllideb yn ystod y ddwy flynedd nesaf.

Dros yr wythnosau diwethaf, mae’r Cyngor wedi bod yn gofyn i drigolion ledled y Fwrdeistref Sirol ddweud eu dweud ar gynlluniau sy’n ymwneud â dyfodol nifer o wasanaethau allweddol – sef Gwasanaeth Prydau Prydlon y Cyngor; Sefydliad y Glowyr, Coed Duon; a Maenordy Llancaiach Fawr.

Dywedodd y Cynghorydd Sean Morgan, “Mae’r rhain yn bethau anodd iawn i’w hystyried, ond mae’r Cyngor yn wynebu cyfyngiadau ariannol digynsail ac mae’n rhaid i ni wneud arbedion enfawr er mwyn mantoli ein cyllideb.”

Daeth y cyfnod ymgynghori i ben yr wythnos diwethaf (10 Medi) ac mae'r Awdurdod bellach yn ystyried yn ofalus yr holl adborth a ddaeth i law gan drigolion. Y cam nesaf fydd cyfarfod Cabinet y Cyngor ar ddydd Mercher 25 Medi i adolygu’r adborth a gwneud penderfyniad terfynol ar y materion hyn.

Aeth y Cynghorydd Morgan yn ei flaen i ddweud, “Bu datblygiad allweddol ynghylch y cynigion ar gyfer dyfodol Sefydliad y Glowyr, Coed Duon. O ganlyniad i statws elusennol Sefydliad y Glowyr, Coed Duon, a rôl y Cyngor fel ymddiriedolwyr, rydyn ni ar hyn o bryd yn ceisio cyngor ar y mecanwaith mwyaf priodol ar gyfer gwneud penderfyniadau. Unwaith y bydd y cyngor hwn wedi’i ystyried, byddwn ni’n paratoi’r adroddiad terfynol ac yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r gymuned a’r staff ar y mater hwn maes o law.”

“Byddwn ni’n rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r gymuned ynghylch y penderfyniad sy’n ymwneud â Llancaiach Fawr a’r Gwasanaeth Prydau Prydlon yn dilyn cyfarfod y Cabinet yr wythnos nesaf, ac mae rhagor o gyhoeddiadau yn debygol dros y misoedd nesaf ynghylch adolygu gwasanaethau eraill,” meddai’r Cynghorydd Morgan.

“Byddwn i’n annog pawb i barhau i ddweud eich dweud, er mwyn i chi allu ein helpu ni i lywio’r ffordd rydyn ni’n darparu eich gwasanaethau yn y dyfodol,” ychwanegodd.

Gellir gweld y ddolen i adroddiadau'r Cabinet ar y gwefan y cyngor.

 
 


Ymholiadau'r Cyfryngau