News Centre

Gwasanaethau Chwaraeon a Hamdden Bwrdeistref Sirol Caerffili yn cynnal Dosbarth Meistr gyda’r Rheolwr Dysgu Nofio Cenedlaethol

Postiwyd ar : 06 Medi 2024

Gwasanaethau Chwaraeon a Hamdden Bwrdeistref Sirol Caerffili yn cynnal Dosbarth Meistr gyda’r Rheolwr Dysgu Nofio Cenedlaethol
Roedd yn anrhydedd i Wasanaethau Chwaraeon a Hamdden Bwrdeistref Sirol Caerffili groesawu Hanna Guise, Rheolwr Dysgu Nofio Cenedlaethol Nofio Cymru, i Ganolfan Hamdden Caerffili yr wythnos hon. Fe wnaeth Hanna arwain dosbarth meistr gyda’r nod o wella darpariaeth gwersi nofio ysgolion cynradd ledled y Fwrdeistref Sirol.

Daeth dros 20 o athrawon nofio ysgol gynradd i’r digwyddiad, gan arddangos ymrwymiad y Cyngor i gyflawni rhagoriaeth mewn rhaglenni nofio mewn ysgolion. Darparodd y dosbarth meistr fewnwelediadau amhrisiadwy a strategaethau ymarferol, gan rymuso athrawon i wella ansawdd yr hyfforddiant nofio sydd ar gael i ddisgyblion lleol ymhellach.

Soniodd y Cynghorydd Chris Morgan, Aelod Cabinet dros Wasanaethau Hamdden, am lwyddiant y digwyddiad: “Rydyn ni wrth ein boddau o fod wedi croesawu Hanna Guise a gweld cyfranogiad mor frwd gan ein hathrawon. Mae’r dosbarth meistr yn adlewyrchu ein hymrwymiad i sicrhau bod gan bob plentyn yn y Fwrdeistref Sirol fynediad at addysg nofio o ansawdd uchel, sy’n hanfodol ar gyfer eu diogelwch a’u lles cyffredinol.”

Mae’r sesiwn yn cynrychioli cydweithio sylweddol rhwng Bwrdeistref Sirol Caerffili a chyrff cenedlaethol fel Nofio Cymru, gan atgyfnerthu ymrwymiad cyffredin i hyrwyddo nofio fel sgìl bywyd ledled yr holl ysgolion lleol.


Ymholiadau'r Cyfryngau