News Centre

Seren MasterChef, Francesca Keirle, yn agor caffi, bar a bistro Geshmak yng Nghaerffili gyda chymorth cyllid y Gronfa Ffyniant Gyffredin

Postiwyd ar : 04 Medi 2024

Seren MasterChef, Francesca Keirle, yn agor caffi, bar a bistro Geshmak yng Nghaerffili gyda chymorth cyllid y Gronfa Ffyniant Gyffredin
Mae Geshmak yn gaffi, bar a bistro lleol a symudodd i dref Caerffili o Gasnewydd i safle gwag ar Clive Street. Fe wnaeth y Cynghorydd Jamie Pritchard ac Adam Sadler, Prif Swyddog Datblygu Busnes Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili, alw heibio i weld yr adeilad newydd ac i sgwrsio â’r perchennog, Francesca Keirle.

Ymddangosodd Francesca Keirle yn rownd gynderfynol cyfres 2015 o BBC MasterChef.

Mae’r bistro ar agor drwy’r dydd gan gynnig brecwast Cymreig blasus, cinio ysgafn a bwydlen gyda'r hwyr ffres wedi’i pharatoi gyda chariad.

Dechreuodd y busnes yng Nghasnewydd ym mis Chwefror 2022, ond yn fuan wedi hynny, roedd angen gwell safle ar Francesca er mwyn ehangu. Wrth edrych ar wahanol safleoedd yn ne Cymru, dewisodd Gaerffili ar ôl gweld yr adfywio sy’n digwydd a llwyddiant bwytai eraill yn y dref. Gadawodd prosiect Tref Caerffili 2035 argraff arni, ac fe wnaeth hi symud ei busnes yma. Agorodd Francesca safle newydd Caerffili ym mis Mawrth eleni.

Maen nhw'n gobeithio creu cyfleoedd gwaith pellach i bobl leol yn y pen draw a chynnig 2 brentisiaeth yn y bistro unwaith y bydd wedi'i sefydlu. Mae Francesca yn dal y gymuned wrth galon ei hegwyddorion busnes, gan weithio gydag elusen Springboard i fentora cogyddion ifanc. Maen nhw'n bwriadu cryfhau'r cysylltiadau a chynnig llwybr gwirioneddol i waith cyflogedig i unigolion di-waith neu'r rhai sy'n dymuno ymgymryd â rolau gwahanol yn y gymuned.

Mae Geshmak wedi cael £7,706.22 gan Lywodraeth y DU drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU. Cafodd y grant hwn ei neilltuo tuag at gaffi, bar a bistro Geshmak o gyllid y Gronfa Ffyniant Gyffredin trwy ymyrraeth Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili. Cafodd y grant arian cyfatebol gan y cwmni ar gyfer gwaith ailosod trydanol llwyr a gwaith plastro i'r adeilad newydd, adnewyddu'r gegin ac arwyddion allanol.

Dywedodd Francesca, “Roedd y broses o wneud cais am y grant yn rhwydd iawn, gyda’r tîm busnes yn barod iawn i helpu ac yn hyblyg wrth ymateb i'm hanghenion.”

Dywedodd Adam Sadler, Prif Swyddog Datblygu Busnes Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili, “Rydyn ni'n falch iawn o groesawu Geshmak i’r Fwrdeistref Sirol a’u cynorthwyo nhw gyda’u gwaith adnewyddu. Ein nod yw darparu’r gwasanaeth gorau posibl i’n busnesau ac rydyn ni bob amser yma i helpu.”

Hefyd, dywedodd y Cynghorydd Jamie Pritchard, Aelod Cabinet dros Ffyniant, Adfywio a Newid yn yr Hinsawdd, “Wrth siarad â Fran, roedd yr angerdd sydd ganddi dros ddod â rhywbeth newydd a chyffrous i Gaerffili yn amlwg. Rydyn ni'n edrych ymlaen at weithio gyda hi eto yn y dyfodol.”

Dewch o hyd i Geshmak ar Facebook: https://www.facebook.com/geshmakbistro

Am ragor o wybodaeth am y cymorth busnes sydd ar gael, neu os oes gennych chi unrhyw gwestiynau, cysylltwch â:

Tîm Menter Fusnes ac Adnewyddu, Canolfan Busnes a Thechnoleg Tredomen, Parc Tredomen, Ystrad Mynach, Hengoed CF82 7WF

E-bost: busnes@caerffili.gov.uk | Ffôn: 01443 866220


Ymholiadau'r Cyfryngau