News Centre

Miloedd o ymwelwyr yn mynychu Gŵyl Caws Caerffili 2024 sy’n fwy nag erioed

Postiwyd ar : 06 Medi 2024

Miloedd o ymwelwyr yn mynychu Gŵyl Caws Caerffili 2024 sy’n fwy nag erioed
Ar ddydd Sadwrn 31 Awst a dydd Sul 1 Medi, cafodd canol tref Caerffili ei thrawsnewid unwaith eto ar gyfer dychweliad y digwyddiad eiconig, Gŵyl Caws Caerffili.

Roedd digwyddiad eleni yn fwy ac yn well na’r digwyddiadau blaenorol, Gŵyl y Caws Bach, ac mae’r digwyddiad bellach yn trawsnewid i Ŵyl Caws Caerffili drwy ddatblygu cynllun safle rhanedig newydd a thrwy ddod â mwy o’r hyn y mae pobl yn ei garu yn ôl!

Roedd nifer yr ymwelwyr yn uchel mewn sawl ardal yng nghanol y dref yn ystod yr ŵyl gyda 13,311 o ymwelwyr wedi’u cofnodi yn y ganolfan, sef 8,876 yn fwy o ymwelwyr na’r penwythnos blaenorol. Roedd gan ardal bar maes parcio'r Twyn 11,442 o ymwelwyr ar ddydd Sadwrn yn unig ac roedd gan ardal bar Crescent Road 3,366 o ymwelwyr dros y penwythnos.

Roedd dros 50 o fasnachwyr bwyd yn y neuaddau bwyd a chwe masnachwr caws yn bresennol dros y penwythnos, yn ogystal â rhaglen gerddoriaeth lawn mewn tair ardal yn y digwyddiad, ffair fwy, crefftau, anifeiliaid a llawer mwy.

Cafodd busnesau a masnachwyr lleol gefnogaeth dda iawn dros y ddau ddiwrnod, ac mae ein Tîm Digwyddiadau yn llawn cyffro i ddatblygu a chynllunio ar gyfer 2025.

Dyma’r hyn a ddywedodd busnesau a masnachwyr lleol am ddigwyddiad eleni:

Meddai The Tipsy Trailer, “Roedd y penwythnos wir yn arbennig! Mae ein gwerthfawrogiad twymgalon yn mynd i Ŵyl y Caws Bach am fod mor garedig â’n croesawu ni a threfnu digwyddiad mor rhyfeddol. Rydyn ni’n estyn ein diolch i bawb a wnaeth gyfrannu, dawnsio ochr yn ochr â ni a chyfrannu at lwyddiant rhyfeddol ein digwyddiad, gan werthu popeth ar bum achlysur gwahanol. Mae eich cefnogaeth ddiwyro yn cael ei gwerthfawrogi’n fawr, ac rydyn ni’n edrych ymlaen yn eiddgar at eich gweld chi eto’r flwyddyn nesaf. Cofiwch gadw’r dyddiad yn rhydd ar gyfer 2025, bawb!”

Dywedodd Crafty Legs Events, “Mae Gŵyl Caws Caerffili y penwythnos diwethaf wedi bod yn ffefryn erioed. Gŵyl rydyn ni wedi tyfu i fyny gyda hi ac mae gennym ni atgofion melys ohoni ers pan oedden ni’n blant. Nawr mae ein plant ni ein hunain yn gallu ei mwynhau ac mae ein breuddwyd o gael un stondin grefft yn yr ŵyl yr holl flynyddoedd hynny yn ôl bellach wedi’i wireddu! Roedd yn wythnos/benwythnos hynod wallgof, ond y gorau, ac rydyn ni mor ddiolchgar i bawb dan sylw, pawb a wnaeth ein cefnogi ni, ein stondinwyr a’r cyhoedd.”

Hefyd, fe ddywedodd Tracey Undery, o The Deli, “Aeth y Tîm Digwyddiadau y tu hwnt i’r disgwyl i ddarparu ar ein cyfer ni yn y digwyddiad, ac ni alla i eu canmol nhw ddigon. Roedd y stiward, Rhys, yn ardderchog ac yn barod iawn i helpu. Wnes i ddim cael cyfle i edrych o gwmpas yr ŵyl gan ein bod ni mor brysur. Dyma’r digwyddiad gorau i ni ei gael erioed, ac roedd yr awyrgylch yn wych! Dydyn ni erioed wedi cael penwythnos mor wych.”

Dywedodd Beth Shinton, o Consurio Lounge, “Roedd dydd Sadwrn yn rhagorol. Wnes i ddim cael cyfle i edrych ar yr ŵyl gan ein bod ni mor brysur, ond roedd yn edrych fel bod pawb yn mwynhau eu hunain.”
Dywedodd Cath Livermore, o Upmarket Family Butchers, “Roedd yn gyfle da i bobl ddod o hyd i ni yn Ffos Caerffili.”

Dywedodd y Cynghorydd Jamie Pritchard, Aelod Cabinet dros Ffyniant, Adfywio a Newid yn yr Hinsawdd, “Penwythnos ffantastig arall a diolch i bawb a ddaeth i gefnogi’r digwyddiad. Mae llawer o adborth cadarnhaol wedi dod i law, sy’n galonogol iawn.”


Ymholiadau'r Cyfryngau