News Centre

Ffliw Adar – Rheoliadau newydd i geidwaid adar gofrestru heidiau

Postiwyd ar : 23 Medi 2024

Ffliw Adar – Rheoliadau newydd i geidwaid adar gofrestru heidiau
Chickens in a field

Mae cyflwyno gofynion cofrestru newydd yn golygu bod yn rhaid i geidwaid adar gofrestru eu hadar a diweddaru eu cofnodion yn flynyddol.

Nod y mesurau newydd, sydd wedi’u nodi gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig, yw diogelu’r sector dofednod yn well rhag achosion o ffliw adar yn y dyfodol.

Mae’r rheolau newydd yn cwmpasu perchnogion heidiau iard gefn, adar ysglyfaethus a bridwyr colomennod, ond nid ydyn nhw’n effeithio ar adar anwes mewn cewyll (ac eithrio unrhyw rywogaeth dofednod) sy’n cael eu cadw’n gyfan gwbl y tu mewn i annedd ddomestig, fel parot, caneri neu fyji, sydd byth yn gadael yr eiddo ar wahân am fynd at y milfeddyg neu gyfnod tymor byr arall.

O dan y newidiadau hyn, bydd gofynion i bob ceidwad adar – waeth beth fo maint eu haid – gofrestru eu hadar yn swyddogol. Yn flaenorol, dim ond y rhai sy’n cadw 50 neu fwy o ddofednod oedd yn gorfod gwneud hyn, gan gyfyngu ar effeithiolrwydd ein mesurau rheoli clefydau cenedlaethol.

Drwy gofrestru eu hadar, bydd ceidwaid yn sicrhau eu bod nhw’n cael diweddariadau pwysig sy’n berthnasol iddyn nhw, fel unrhyw achosion lleol o glefydau adar a gwybodaeth am reolau bioddiogelwch i helpu diogelu eu heidiau.

Bydd hyn yn helpu rheoli achosion posibl o glefydau, fel ffliw adar a chlefyd Newcastle, a chyfyngu ar unrhyw ledaenu.

Meddai'r Cynghorydd Philippa Leonard, Aelod Cabinet dros Gynllunio a Diogelu'r Cyhoedd,

“Drwy gofrestru, bydd ceidwaid nid yn unig yn diogelu eu hadar eu hunain, ond yn cyfrannu at ymdrechion ehangach i fonitro a rheoli clefydau adar. Rwy’n annog pob ceidwad i gofrestru eu haid i sicrhau diogelu ein holl boblogaethau adar cyn i’r newid mewn gofynion ddod i rym o fis Hydref ymlaen.”

Bydd yr wybodaeth ar y gofrestr hefyd yn cael ei defnyddio i nodi’r holl geidwaid adar mewn parthau rheoli clefydau posibl, gan ddarparu ar gyfer gwyliadwriaeth fwy effeithiol, fel bod parthau’n gallu cael eu codi cyn gynted â phosibl a bod masnachu’n gallu ailddechrau’n gyflymach mewn achos o glefyd adar.

Bydd angen i geidwaid adar ddarparu gwybodaeth, gan gynnwys eu manylion cyswllt, y lleoliad lle mae’r adar yn cael eu cadw a manylion yr adar (rhywogaethau, faint ohonyn nhw sy’n cael eu cadw a’r rheswm dros eu cadw).

Yng Nghymru a Lloegr, mae ceidwaid yn cael eu hannog i gofrestru eu hadar cyn y dyddiad cau cyfreithiol ar 1 Hydref 2024.

Gallwch chi gofrestru drwy wefan Llywodraeth y Deyrnas Unedig. 

Cofrestrwch fel ceidwad llai na 50 o ddofednod neu adar caeth eraill - GOV.UK (www.gov.uk)
 


Ymholiadau'r Cyfryngau