News Centre

Simplelifeco: busnes lleol sy’n darparu pecynnau ecogyfeillgar yn cael cymorth gan gyllid y Gronfa Ffyniant Gyffredin

Postiwyd ar : 05 Medi 2024

Simplelifeco: busnes lleol sy’n darparu pecynnau ecogyfeillgar yn cael cymorth gan gyllid y Gronfa Ffyniant Gyffredin
Mae Simplelifeco yn fusnes lleol sy’n cynorthwyo microfusnesau ledled y DU, gan helpu rhoi’r gorau i ddefnyddio plastig untro trwy gyflenwi deunydd pacio a phostio ecogyfeillgar y mae modd eu compostio'n llwyr.

Cafodd Simplelifeco ei sefydlu yn 2019 ac, ar hyn o bryd, mae'n cyflogi 3 o bobl. Mae’r busnes yn hynod ymroddedig i'r amgylchedd ac mae eisoes yn rhan o grŵp Cadwyn Cystodaeth y Cyngor Stiwardiaeth Coedwigoedd, wedi cwblhau asesiad effaith B Corp yn llwyddiannus ac yn aros am ardystiad. Mae cwmnïau B Corp ardystiedig yn bodloni'r safonau uchaf o ran perfformiad cymdeithasol ac amgylcheddol ac maen nhw'n fath newydd o fusnes, gan gydbwyso elw â phobl a'r blaned.

Mae gan y prosiect sydd wedi'i amlinellu yn yr asesiad gysylltiadau cryf â rhaglen Llywodraeth Cymru ar gyfer economi wyrddach, tecach a chynaliadwy.

Ar hyn o bryd, mae gan y busnes gysylltiadau da â DPD, y Post Brenhinol, FedEx a chwmnïau tebyg eraill ar gyfer cyflenwi deunydd pacio a phostio y mae modd eu compostio.

Mae Simplelifeco wedi cael cymorth gan Jodie Thomas, mentor o Raglen Pobl a Sgiliau Cyngor Caerffili. Ymwelodd Jodie â Simplelifeco gan eu bod nhw'n ystyried cyflogi gweithredwr warws am 16 awr yr wythnos. Helpodd y cynllun i reoli’r broses recriwtio gan ddod o hyd i ymgeiswyr addas i Simplelifeco gyda'r sgiliau sydd eu hangen ar y busnes. Hefyd, darparodd y Tîm Pobl a Sgiliau gymorth dilynol a chyllid i gyflenwi dillad gwaith priodol.

Mae Sarah Gaze, Swyddog Masnach Ryngwladol y Cyngor, wedi cynorthwyo Simplelifeco gyda grant masnach ryngwladol a ganiataodd iddyn nhw lansio yn yr Undeb Ewropeaidd 2 flynedd yn ôl, gan gyflenwi eu cynnyrch i Ffrainc, yr Eidal, yr Almaen a Sbaen.

Cafodd Simplelifeco £5,000 gan Lywodraeth y DU drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU. Cafodd y grant hwn ei neilltuo tuag at Simplelifeco o gyllid y Gronfa Ffyniant Gyffredin drwy ymyrraeth Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili. Cafodd y grant arian cyfatebol gan y cwmni ar gyfer staffio ac ymgyrch hysbysebu ar Amazon a ganiataodd i'r cwmni fasnachu ar hyd a lled y DU a Ffrainc.

Dywedodd Beth Keeble, Cyfarwyddwr Simplelifeco, "Rydyn ni'n ddiolchgar iawn i Gyngor Caerffili am ei gymorth a'i arweiniad diwyro drwy gydol y flwyddyn ddiwethaf! Dyma air o glod i Lauren, Sally a Sarah – y tîm delfrydol di-stop – am fod yn bencampwyr i ni ac am ein gyrru ni ymlaen gyda'u hegni a'u hymroddiad heintus. Mae eu hymdrechion diflino wedi ein galluogi ni i groesawu aelod newydd anhygoel i'n tîm, Sam Treble, sydd wedi dod â safbwyntiau a sgiliau ffres i'n busnes. Rydyn ni'n edrych ymlaen at gychwyn ar y daith gyffrous o'n blaenau, wedi'i hysgogi gan ein hangerdd i dyfu a ffynnu ym marchnad yr Undeb Ewropeaidd. Dewch i ni sicrhau mai eleni yw'r flwyddyn orau eto!"

Dywedodd y Cynghorydd Jamie Pritchard, Aelod Cabinet dros Ffyniant, Adfywio a Newid yn yr Hinsawdd “Roedd yn wych cwrdd a siarad â'r gweithiwr newydd, Sam, am ei brofiadau ers cael ei gyflogi trwy raglen Pobl a Sgiliau’r Cyngor. Cawson ni wybod sut y bydd Simplelifeco yn helpu busnesau i ddileu plastig a mabwysiadu arferion cludo nwyddau cynaliadwy. Mae hyn yn cyd-fynd i raddau helaeth â dull y Cyngor o ddod yn sero net erbyn 2030.”

Dewch o hyd i ragor o wybodaeth am Simplelifeco a’u cynnyrch ar eu gwefan: https://simplelifeco.uk/

Am ragor o wybodaeth am y cymorth busnes sydd ar gael, neu os oes gennych chi unrhyw gwestiynau, cysylltwch â:

Tîm Menter Fusnes ac Adnewyddu, Canolfan Busnes a Thechnoleg Tredomen, Parc Tredomen, Ystrad Mynach, Hengoed CF82 7WF

E-bost: busnes@caerffili.gov.uk | Ffôn: 01443 866220


Ymholiadau'r Cyfryngau