News Centre

Trigolyn o Fwrdeistref Sirol Caerffili wedi’i herlyn am halogiad gwastraff parhaus

Postiwyd ar : 18 Hyd 2024

Trigolyn o Fwrdeistref Sirol Caerffili wedi’i herlyn am halogiad gwastraff parhaus
Mae trigolyn ym Mwrdeistref Sirol Caerffili, Kirstyn Harris o Brynteg Avenue, Pontllan-fraith, wedi’i herlyn am halogiad gwastraff parhaus.

Cafodd y trigolyn ei herlyn am beidio â chydymffurfio â'r hysbysiad cyfreithiol a gafodd ei gyflwyno o dan Adran 46 o Ddeddf Diogelu'r Amgylchedd 1990. Daw hyn ar ôl 7 wythnos o geisio ymgysylltu trwy lythyrau a nifer o ymgeision i wneud ymweliad.

Ni wnaeth Kirstyn Harris bledio, a chafodd yr achos ei brofi yn ei habsenoldeb. Cafodd orchymyn i dalu dirwy o £220, costau erlyn o £120 a gordal o £88. Felly, y cyfanswm i’w dalu yw £428 ac mae ganddi hi tan 31 Hydref i wneud hynny.

Dywedodd y Cynghorydd Chris Morgan, Aelod Cabinet dros Wastraff, Hamdden a Mannau Gwyrdd, “Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili yn defnyddio tîm i fonitro cyfranogiad yn ei wasanaethau casglu ailgylchu ac yn cynnig cyngor ar yr hyn sy’n gallu cael ei ailgylchu a sut i ailgylchu’n effeithiol.

Tra bod mwyafrif y trigolion yn rhoi’r deunyddiau ailgylchadwy cywir yn y bin cywir, mae rhai o’n trigolion yn parhau i ddefnyddio’r bin ailgylchu yn anghywir.  

Cyn i ni ystyried cymryd camau gorfodi, rydyn ni’n darparu cyngor ac arweiniad i drigolion ar sut i ailgylchu'n gywir a digon o gyfleoedd i wella materion.  Mae atgyfeirio achosion i’r llys yn gam olaf, fodd bynnag, mae’r achos hwn yn dangos ymrwymiad yr Awdurdod i wella ansawdd a swm y deunydd ailgylchu sy’n cael ei gasglu a’i ailbrosesu.”  

Rhagor o wybodaeth am yr hyn sy'n mynd yn eich biniau: www.caerffili.gov.uk/services/household-waste-and-recycling/what-goes-in-my-bins?lang=cy-gb


Ymholiadau'r Cyfryngau