News Centre

Gofalu am Gaerffili yn ennill dwy wobr fawreddog ar gyfer iechyd meddwl a lles

Postiwyd ar : 18 Hyd 2024

Gofalu am Gaerffili yn ennill dwy wobr fawreddog ar gyfer iechyd meddwl a lles
Rydyn ni’n llawn cyffro i gyhoeddi bod Gofalu am Gaerffili wedi ennill dwy wobr fawreddog yng Ngwobrau Iechyd Meddwl a Lles Cymru!  Mae ein tîm wedi cael ei gydnabod am ei waith rhagorol yn y gymuned, gan dderbyn gwobr Efydd am y Gwasanaeth Lles Gorau a gwobr Arian am Effaith yn y Gymuned.

Cafodd y seremoni wobrwyo ei chynnal ddydd Mercher 9 Hydref yng Ngwesty Mercure Holland House yng Nghaerdydd, ychydig cyn Diwrnod Iechyd Meddwl y Byd.  Roedd y digwyddiad yn dathlu llwyddiannau unigolion a sefydliadau ledled Cymru sy’n gweithio’n ddiflino i wella iechyd meddwl a lles.

Mae'r gydnabyddiaeth hon yn amlygu ein hymrwymiad i wella iechyd meddwl a lles yn y rhanbarth a'r effaith gadarnhaol rydyn ni’n parhau i'w chael yn y gymuned.

Rhannodd y Cynghorydd Carol Andrews, Aelod Cabinet dros Addysg a Chymunedau, ei balchder yng nghyflawniadau’r tîm,  “Mae ennill y gwobrau hyn yn dyst i ymdrechion diflino tîm Gofalu am Gaerffili.  Mae eu hymroddiad i wella lles ein cymuned yn wirioneddol ysbrydoledig, ac mae’r gwobrau hyn yn adlewyrchu’r gwahaniaeth gwirioneddol maen nhw wedi’i wneud ym mywydau pobl.  Rwy’n hynod falch o’u cyflawniadau.”

Rydyn ni’n ddiolchgar i bawb sydd wedi cefnogi Gofalu am Gaerffili, ac rydyn ni am ddiolch i’r beirniaid am gydnabod ein hymdrechion.  Mae’r gwobrau hyn yn adlewyrchiad o waith caled ac ymroddiad ein tîm, yn ogystal â chryfder a gwydnwch y gymuned rydyn ni’n ei gwasanaethu.

Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â Gofalu am Gaerffili ar 01443 811490, e-bostio GofaluAmGaerffili@caerffili.gov.uk, neu anfon y gair CYMORTH fel neges destun i 07537 414443.
 


Ymholiadau'r Cyfryngau