Bu aelodau Cabinet Cyngor Caerffili yn cwrdd ddydd Llun (Medi 26ain) ac yn cymeradwyo cynlluniau i greu cronfa galedi arbennig i helpu trigolion ymdopi â'r 'argyfwng costau byw'
Mae'r argyfwng costau byw presennol yn her ariannol eithriadol i lawer o drigolion y Fwrdeistref Sirol. Bydd Cronfa Galedi Costau Byw Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili yn caniatáu i'r Cyngor ymgymryd â chyfres o fentrau gyda'r nod o ddarparu cymorth i'r rhai sydd â'r angen mwyaf.
Bydd gwybodaeth am sut i wneud cais a'r meini prawf cymhwysedd ar gyfer y Gronfa Galedi yn cael ei chyhoeddi yn ystod y misoedd nesaf.
Yn ogystal â'r Gronfa Galedi roedd yr adroddiad yn cynnwys nifer o gynigion ar gyfer y dyfodol ar sut y bydd y Cyngor yn helpu ein trigolion ni ymhellach drwy'r argyfwng.
Roedd y cynigion yn cynnwys agor rhagor o fanciau bwyd, canolfannau hamdden i gynnig sesiynau campfa a nofio rhad neu am ddim, a sefydlu hybiau cymunedol i alluogi pobl leol i helpu cydlynu'r ymateb lleol i'r argyfwng costau byw.
Dywedodd y Cynghorydd Sean Morgan, Arweinydd y Cyngor, “Mae'r argyfwng costau byw ym mlaen meddwl pawb ar hyn o bryd, yn enwedig wrth i drigolion ddefnyddio mwy o ynni yn y misoedd oerach, sydd eisoes ar lefelau eithriadol.
“Fel Arweinydd y Cyngor, rydw i eisiau tawelu meddwl yr holl gymuned fod yr awdurdod lleol hwn yn gweithio'n galed i helpu pawb yn ystod y cyfnod anodd hwn.
“Bydd Cronfa Galedi Costau Byw Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili yn galluogi'r Cyngor i ddarparu cymorth, wedi'i dargedu, yn gyflym i'r trigolion mwyaf agored i niwed yn ein cymunedau ni.
“Rydyn ni eisiau sicrhau ei bod hi mor hawdd â phosibl i gael mynediad at y cymorth sydd ar gael, ac rydyn ni wedi datblygu ‘siop un stop’ ar wefan Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili lle mae llawer o fesurau cymorth costau byw mewn un lle – www.caerffili.gov.uk/cymorth-costau-byw
“Rydyn ni'n sylweddoli nad oes gan bawb fynediad i'r rhyngrwyd a gall rhai o'r cynlluniau hyn fod yn anodd eu deall, felly, yn ddiweddar, cafodd nifer o sioeau teithiol costau byw eu cynnal ledled y Fwrdeistref Sirol i bobl leol drafod cymhwysedd wyneb yn wyneb â swyddogion y Cyngor a'n sefydliadau partner. Bydd rhagor o sioeau teithiol yn y misoedd nesaf.
“Er mwyn sicrhau eich bod chi'n derbyn yr holl gymorth y mae gennych chi'r hawl iddo, siaradwch ag aelod o'r tîm Gofalu am Gaerffili heddiw.”
Cysylltwch â'r tîm Gofalu am Gaerffili ar 01443 811490 neu e-bostio: GofaluAmGaerffili@caerffili.gov.uk
Mae'r tîm Gofalu am Gaerffili ar gael yn ystod oriau swyddfa.
Dydd Llun i ddydd Iau (8.30am–5pm), a dydd Gwener (8.30am–4.30pm).