Ymgyrch Siôn Corn 2022
Postiwyd ar : 01 Tach 2022
Mae Ymgyrch Siôn Corn flynyddol Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili yn lansio heddiw!
Mae cannoedd o blant ledled y Fwrdeistref Sirol sydd mewn perygl o beidio â chael anrheg y Nadolig hwn a nod Ymgyrch Siôn Corn yw darparu anrhegion i'r rhai sydd wedi'u henwebu gan eu gweithwyr cymdeithasol nhw.
Yn debyg i’r llynedd, nid oes modd i ni dderbyn rhoddion fel mewn blynyddoedd blaenorol ac rydyn ni'n gofyn i breswylwyr addo arian parod neu daleb rhodd yn lle hynny. Bydd anrhegion wedyn yn cael eu prynu a’u danfon yn syth at y plant mewn pryd ar gyfer y diwrnod mawr.
Mae ein llinell addewidion bellach ar agor tan ddydd Gwener 25 Tachwedd ac mae’n darparu ffordd gyflym a hawdd i grwpiau ac unigolion hael addo arian parod neu daleb rhodd i blentyn y Nadolig hwn yn syml drwy ymweld â'n tudalen rhoddion.
Os dewiswch brynu taleb rhodd, peidiwch â lapio’ch taleb. Yn hytrach, rhowch mewn amlen a sicrhau ei fod wedi’i farcio’n glir â’r wybodaeth isod:
- Teitl yr amlen fel ‘Ymgyrch Siôn Corn’
- Oedran y plentyn
- Bachgen neu ferch
- Gwerth taleb/cerdyn rhodd
Cyfyngwch werth pob taleb/cerdyn rhodd unigol i £10.00.
Mae angen mynd â'r cardiau rhodd heb eu lapio i ganolfan gasglu erbyn dydd Llun 28 Tachwedd.
Mae’r canolfannau casglu fel a ganlyn:
- Y blwch post o flaen Tŷ Penallta (CF82 7PG)
- Ysgol Gynradd Cwrt Rawlin (CF83 1SN)
- Apex Estate Agents, Bargod (CF81 8QX)
- Sefydliad y Glowyr, Coed Duon (NP12 1BB)
- Banc Barclays, Ystrad Mynach (CF82 7AA)
- Swyddfa YMCA, Bargod (CF81 8JA)
- Llyfrgell Caerffili (CF83 1JL)
- Llyfrgell Rhisga (NP11 6BW)
- Llyfrgell Rhymni (NP22 5NZ)
Fel arall, gallwch wneud addewid drwy ffonio 01443 866577 neu e-bostio YmgyrchSionCorn@caerffili.gov.uk.
Dywedodd y Cynghorydd Elaine Forehead, Aelod Cabinet dros Ofal Cymdeithasol, "Mae llawer yn dal i deimlo effeithiau’r pandemig a gyda’r argyfwng costau byw presennol, mae’n hollbwysig sicrhau bod pob plentyn yn cael anrheg y Nadolig hwn. Mae Ymgyrch Siôn Corn yn achos mor deilwng a dim ond drwy roddion hael gan fusnesau a thrigolion y Fwrdeistref Sirol y mae'r ymgyrch yn gallu cael ei chyflawni.
"Ar ran Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili, hoffwn i ddiolch i bawb sydd wedi cyfrannu tuag at yr ymgyrch yn y gorffennol am eich rhoddion a'ch cymorth parhaus chi, ac rwy'n gwybod y bydd Ymgyrch Siôn Corn 2022 yr un mor llwyddiannus â blynyddoedd blaenorol."