Drwy ddefnyddio’r safle we hwn, rydych yn cytuno i’n defnydd ni o gwcis.
Cliciwch am fwy o fanylion
.
Skip to content
Hygyrchedd
Cysylltwch â ni
Y ganolfan newyddion
Tanysgrifio
English
Search for:
Tasgau poblogaidd
Preswylydd
Busnes
Pethau i'w gwneud
Y Cyngor
Cymerwch ran
Menu
Tasgau poblogaidd
Swyddi a hyfforddiant
Prydau ysgolion cynradd
Canolfannau Hamdden
Gwiriwr Signal Ffonau Symudol
Treth y Cyngor
Casgliad bin wedi'i golli
Gwneud cais, adrodd, gofyn, talu
Ysgolion, dyddiadau tymor a chau ysgolion
Trafnidiaeth gyhoeddus – gwybodaeth a chyngor
Credyd Cynhwysol (yn lle Budd-daliadau Tai)
Chwilio, olrhain a gwneud sylwadau ar geisiadau cynllunio
Diwrnodau casglu gwastraff
Preswylydd
Busnes
Pethau i'w gwneud
Y Cyngor
Cymerwch ran
Newyddion
Newyddion
Tachwedd 2022
Rhodd contractwr yn helpu Caerffili i gysylltu
News Centre
Rhodd contractwr yn helpu Caerffili i gysylltu
Postiwyd ar : 07 Tach 2022
Mae’r arbenigwr adeiladu Willmott Dixon wedi rhoi 10 gliniadur i gynorthwyo grwpiau cymunedol ym Mwrdeistref Sirol Caerffili.
Ar hyn o bryd, mae'r contractwr yn gweithio gyda Chyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili i helpu cyflawni ei raglen adeiladu tai uchelgeisiol.
Mae’r grwpiau sydd wedi elwa o’r rhodd, hyd yn hyn, yn cynnwys Canolfan Glowyr Caerffili, lle mae’r gliniaduron yn cael eu defnyddio i gynorthwyo’r rhai sy’n defnyddio ei sesiynau caffi cymorth Wcráin pwrpasol. Mae prosiect caffi We Connect, Rhisga, hefyd wedi derbyn gliniaduron i helpu trigolion lleol i gael mynediad at wasanaethau ar-lein.
Mae Cyfnewidfa Gwisg Ysgol Caerffili, menter gymdeithasol a gafodd ei sefydlu'n ddiweddar, yn defnyddio'r gliniadur i'w helpu i gadw cofnodion a rhedeg y sefydliad o ddydd i ddydd.
Dywedodd y Cynghorydd Shayne Cook, Aelod Cabinet y Cyngor dros Dai, “Yn ogystal â chynyddu’r cyflenwad o dai fforddiadwy i helpu ateb y galw cynyddol yn y Fwrdeistref Sirol, mae'r Cyngor wedi ymrwymo i wneud y mwyaf o'r buddsoddiad sy'n cael ei wneud drwy ein rhaglen adeiladu newydd er mwyn darparu buddion ehangach i'n cymunedau.
“Hoffwn i ddiolch i Willmott Dixon am y rhodd hael hon, a fydd yn helpu llawer o drigolion a allai fod wedi’u heithrio'n ddigidol yn flaenorol, yn ogystal â chynorthwyo twf mentrau cymdeithasol lleol.”
Dywedodd Ian Jones, Cyfarwyddwr yn Willmott Dixon, am y rhodd, “Yn ystod y gwaith o adeiladu'r prosiectau rydyn ni wedi'u cyflawni ar gyfer Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili, rydyn ni wedi gweithio mewn nifer o ffyrdd i gynorthwyo'r gymuned leol ac ehangach lle gallwn ni. Roedden ni wrth ein bodd o allu gwneud y cyfraniad hwn o liniaduron fel rhan o'n hymrwymiad gwerth cymdeithasol i helpu'r bobl hynny sydd ei angen fwyaf.”
Rhannwch y dudalen hon :
Rhannwch ar Facebook
Rhannwch ar Twitter
Newyddion Diweddar
Dull Byw Hamdden yn dathlu aelodau hirdymor fel rhan o ddathliadau Diwrnod Ffitrwydd Cenedlaethol
Gwasanaeth Prydau Prydlon i barhau
Gŵyl Fwyd gyntaf Rhisga yn llwyddiant ysgubol
Canolfan Hamdden Heolddu yn cyflwyno hyfforddiant achub bywydau fforddiadwy ar gyfer cyfleoedd gyrfa newydd.
Busnesau lleol ym Mharc Busnes a Thechnoleg Tredomen yn cael hwb ffibr llawn gan Ogi
Ymholiadau'r Cyfryngau
Cyfeiriad E-bost
Ffôn
Cyfeiriad
Gwasanaethau A i Y
A
B
C
Ch
D
Dd
E
F
Ff
G
Ng
H
I
L
Ll
M
N
O
P
Ph
R
Rh
S
T
Th
U
W
Y