News Centre

​Tynnu pont droed Gorsaf Caerffili

Postiwyd ar : 25 Gor 2024

​Tynnu pont droed Gorsaf Caerffili

Mae Grŵp Prosiectau Peirianneg Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili am roi gwybod i chi fod gwaith i gael gwared ar bont droed Gorsaf Caerffili wedi'i raglennu ar gyfer 28 Gorffennaf 2024. Bydd y gwaith yn cael ei wneud dros nos gyda rhwystr ar waith ar y rheilffordd.

Mae peirianwyr yr Awdurdod wedi sicrhau cytundeb gan Gabinet y Cyngor ar gyfer cael gwared ar y bont droed ar sail pryderon ynghylch diogelwch strwythurol yn achos teithwyr.

Bydd y gwaith galluogi, cyn mynd ati i gael gwared ar y bont, yn dechrau nos Wener 26 Gorffennaf o 19:00 ymlaen. Bydd hyn yn cynnwys cau maes parcio talu ac arddangos Station Terrace tan brynhawn Sul 28 Gorffennaf 2024. Ni fydd hyn yn effeithio ar fynediad i breswylwyr ar hyd Station Terrace.

Bydd cyfleuster parcio a theithio Gorsaf Caerffili ar gau i draffig sydd am fynd i mewn i'r cyfleuster o 19:00 ymlaen nos Sadwrn 27 Gorffennaf 2024. Bydd cerbydau a fydd wedi'u parcio yn cael gadael y cyfleuster hyd at 23:59, wedyn bydd y cyfleuster ar gau i bob cerbyd tan 14:00 brynhawn Sul 28 Gorffennaf 2024. Y rheswm dros gau'r meysydd parcio fesul cam yw caniatáu i'r contractwr gynnal gwiriadau diogelwch angenrheidiol a sicrhau bod y meysydd parcio yn glir i ganiatáu cludo'r bont droed o'r safle.

Bydd cyfyngu ar fynediad i gerddwyr ym maes parcio talu ac arddangos Station Terrace, a bydd arwyddion yn dangos y llwybrau gwyro i faes parcio'r cyfleuster parcio a theithio.

Bydd King Edward Avenue ar gau dros nos neu'n gynnar yn y bore wrth gael gwared ar y grisiau, y rhychwant deheuol a'r pileri. Bydd cerbydau a cherddwyr yn cael mynd i ystâd breswyl King Edward, a mynd allan ohoni, rhwng y gwaith o ddadosod y bont.

Mae'r gwaith o gael gwared ar sylfeini'r bont droed wedi'i raglennu yn ystod y diwrnod gwaith o ddydd Llun 29 Gorffennaf i ddydd Gwener 2 Awst 2024.

Dylai gael ei nodi y gall y rhaglen waith uchod newid oherwydd tywydd garw, problemau annisgwyl ar y safle a/neu ffactorau y tu hwnt i'n rheolaeth ni. Hefyd, ar hyn o bryd, mae rhanddeiliaid yn adolygu'r Cynllun Cyfnod Adeiladu i sicrhau bod modd gwneud y gwaith yn ddiogel. Os bydd unrhyw bryder, bydd y gwaith yn cael ei ohirio nes bod yr holl risgiau wedi'u lliniaru cyn dechrau'r gwaith.

Byddwn ni'n ymdrechu i sicrhau mynediad i gerbydau a cherddwyr yn ystod y gwaith hwn, lle bo hynny'n ymarferol.

Rydyn ni'n ddiolchgar am eich amynedd yn ystod y gwaith hwn.

Yn gywir 



Ymholiadau'r Cyfryngau