News Centre

Digwyddiad Cwadrathlon i Blant Clwb Athletau Cwm Rhymni yn Hwb Athletau Cyngor Caerffili

Postiwyd ar : 22 Gor 2024

Digwyddiad Cwadrathlon i Blant Clwb Athletau Cwm Rhymni yn Hwb Athletau Cyngor Caerffili
Yn Nigwyddiad Cwadrathlon i Blant Clwb Athletau Cwm Rhymni, a gafodd ei gynnal yn Hwb Athletau Cyngor Caerffili yn Oakdale, daeth 48 o athletwyr ifanc, yn amrywio o blant dan 7 oed i blant blwyddyn 6 yn yr ysgol, i gymryd rhan mewn amrywiaeth o weithgareddau athletaidd. Roedd y digwyddiad yn cynnwys rhedeg, neidio, taflu a her ddycnwch, gan ddarparu profiad athletaidd cynhwysfawr i bawb oedd yn cymryd rhan.

Cafodd pob athletwr wobrau perfformiad eithriadol, wedi'u henwebu gan ein harweinwyr ifanc a fu'n hyfforddi'r cyfranogwyr drwy gydol y digwyddiad. Roedd y gwobrau hyn yn cydnabod yr ymdrechion a'r chwarae teg arbennig a gafodd eu dangos gan bawb dan sylw.

Mynegodd Cadeirydd Clwb Athletau Cwm Rhymni, Deb Howells, ei llawenydd: “Rydyn ni'n hynod falch o'r holl athletwyr ifanc a gymerodd ran. Roedd eu hymrwymiad a'u brwdfrydedd yn wirioneddol ysbrydoledig. Roedd y digwyddiad hwn yn amlygu pwysigrwydd athletau a'r cyfleoedd ffantastig sydd ar gael yn ein clwb.”

Ar gyfer y rhai sydd â diddordeb mewn ymuno â Chlwb Athletau Cwm Rhymni, mae rhagor o wybodaeth ar gael ar wefan Clwb Athletau Cwm Rhymni. Gallwch chi hefyd gysylltu â ni yn Chwaraeon Caerffili drwy davies30@caerffili.gov.uk neu 01443 863397.

Mae Hwb Athletau Cyngor Caerffili ar gael am ddim fel rhan o'ch aelodaeth Dull Byw Hamdden. Cadwch eich lle nawr ar ap Dull Byw Hamdden.


Ymholiadau'r Cyfryngau