News Centre

Parti Traeth Coed Duon yn denu miloedd i ganol y dref

Postiwyd ar : 24 Gor 2024

Parti Traeth Coed Duon yn denu miloedd i ganol y dref
Ddydd Sadwrn 13 Gorffennaf, daeth miloedd o bobl i ganol tref Coed Duon ar gyfer Parti Traeth Coed Duon.
 
Roedd y Stryd Fawr i gyd yn orlawn o ymwelwyr ac roedd torfeydd mawr o gwmpas y llwyfan adloniant trwy gydol y dydd. Yn ogystal â’r traeth trefol anferth, a oedd yn cynnwys sioeau môr-ladron, roedd nifer o stondinau bwyd, diod a chrefft ar hyd y strydoedd, reidiau ffair ac arddangosfeydd anifeiliaid. Ar ben hynny, roedd prif lwyfan Cyngor Tref Coed Duon yn arddangos grwpiau cerddoriaeth a dawns, gan gynnwys teyrnged i Taylor Swift.
 
Cafodd busnesau a masnachwyr lleol gefnogaeth dda trwy gydol y dydd hefyd. Dyma oedd eu barn am y Parti Traeth:
 
Dywedodd New Look, “Digwyddiad rhyfeddol, roedd y Stryd Fawr dan ei sang, roedd wedi dod â llawer o bobl yma, roedd yn wych i ni fel busnes ac roedd yn brysurach na Ffair y Gwanwyn!”
 
Dywedodd Gavyn a Shirley yn McKenzie’s Café Bar, “Roedd presenoldeb da iawn ac roedd yn drefnus iawn, gydag amrywiaeth eang o stondinau a gweithgareddau i bobl o bob oedran.  Hyfryd gweld wynebau pawb yn gwenu, gyda’r haul hefyd yn ymddangos am ychydig oriau! Braf gweld y gymuned leol allan a phawb yn eistedd o amgylch y traeth”
 
Dywedodd Sinema Maxime, “Roedd yn brysur iawn yma, daeth y digwyddiad â llawer o gwsmeriaid i mewn.  Roedd yn ddiwrnod llawn hwyl i’r holl staff, a oedd wedi gwisgo gwisg ffansi ar gyfer y digwyddiad. Roedd y thema Hawäiaidd hefyd yn cyd-fynd yn dda â rhyddhau Despicable Me 4!”
 
Dywedodd Helena Forrest, Rheolwr siop Ymchwil Canser Cymru, 137 Stryd Fawr Coed Duon, “Roedd y parti traeth dros y penwythnos yng Nghoed Duon yn ddigwyddiad da iawn ac roedd yn braf gweld canol y dref mor brysur. Rydyn ni'n edrych ymlaen at fod yn rhan o’r digwyddiad nesaf ac at groesawu siopwyr sy’n chwilio am fargen ymhlith ein hamrywiaeth o nwyddau ail-law o safon. Drwy siopa gyda ni neu gyfrannu eich eitemau ail-law, gallwch chi helpu i greu gobaith i bobl sydd wedi’u heffeithio gan ganser heddiw a thrawsnewid y dyfodol i gleifion yfory.”
 
Hefyd, dywedodd y Cynghorydd Jamie Pritchard, Aelod Cabinet dros Ffyniant, Adfywio a Newid yn yr Hinsawdd, “Roedd yn wych gweld cymaint o bobl yn mynychu Parti Traeth Coed Duon. Roedd amrywiaeth o weithgareddau ar gael i bob oedran eu mwynhau. Mae'r digwyddiad hwn, fel pob digwyddiad arall, yn dod â phobl i ganol ein trefi. Sioe wych, unwaith eto!”


Ymholiadau'r Cyfryngau