News Centre

Ysgol Gyfun Cwm Rhymni yn dathlu adroddiad llwyddiannus gan Estyn

Postiwyd ar : 29 Gor 2024

Ysgol Gyfun Cwm Rhymni yn dathlu adroddiad llwyddiannus gan Estyn
Mae Ysgol Gyfun Cwm Rhymni wedi dathlu ei hadroddiad llwyddiannus gan Estyn yn ddiweddar, yn dilyn arolygiad cadarnhaol o'r ysgol.

Mae Estyn yn arolygu ansawdd a safonau mewn darparwyr addysg a hyfforddiant yng Nghymru. Mae eu hadroddiadau nhw'n sicrhau bod ysgolion yn cynnal y safonau uchel y mae disgyblion y Fwrdeistref Sirol yn eu haeddu.

Mae'r adroddiad ar Ysgol Gyfun Cwm Rhymni yn amlygu bod disgyblion yn gwrando'n astud ar eu hathrawon ac wedi datblygu medrau darllen, ysgrifennu a rhifedd gwerthfawr. Mae'r gyfradd absenoldeb parhaus yn sylweddol is na'r cyfartaledd cenedlaethol ac mae presenoldeb yn uwch nag ysgolion tebyg.

Mae gan ddisgyblion falchder amlwg at eu hysgol a'i chymuned, gan goleddu egwyddor graidd yr ysgol mai ‘Perthynas yw popeth’. Mae'r egwyddor graidd hon yn cael ei hybu, ei hyrwyddo a'i chyfoethogi gan berthnasoedd cadarnhaol rhwng staff a disgyblion.

Mae'r ysgol yn cydweithio'n agos â disgyblion a theuluoedd er mwyn lliniaru effeithiau tlodi, ac mae'r disgyblion yn gweithio'n flaengar fel un corff effeithiol i gynrychioli safleoedd Gellihaf a'r Gwyndy.

Mae Ysgol Gyfun Cwm Rhymni yn gymuned gynhwysol, ofalgar a chartrefol sy'n cefnogi anghenion addysgol, emosiynol a chymdeithasol disgyblion yn rhagorol.

Darllen yr adroddiad llawn: www.estyn.llyw.cymru/darparwr/6764103


Ymholiadau'r Cyfryngau