News Centre

Menter perchnogaeth cŵn gyfrifol (LEAD) ar draws Gwent gyfan.

Postiwyd ar : 29 Gor 2024

Menter perchnogaeth cŵn gyfrifol (LEAD) ar draws Gwent gyfan.

Mae menter bartneriaeth â’r nod o hyrwyddo ac annog perchnogaeth cŵn gyfrifol bellach wedi lansio ar draws pob un o’r bum ardal awdurdod lleol yng Ngwent.

Lansiwyd menter LEAD (Ymwybyddiaeth Amgylcheddol Leol ar Gŵn) gennym ym mwrdeistref Caerffili ym mis Medi 2023, ac rydym wedi gweithio gyda phartneriaid diogelwch cymunedol i gyflwyno mesurau i gynyddu diogelwch yn ein cymunedau.

Drwy’r prosiect, rydym wedi rhoi cyngor i’r cyhoedd ar faterion yn ymwneud â chŵn, wedi gwella diogelwch a lles cŵn ac wedi cosbi’n llym ymddygiad gwrthgymdeithasol neu ddifeddwl yn ymwneud â chŵn.

Mae menter LEAD yn galluogi partneriaid i rannu gwybodaeth a rhoi amrywiaeth o fesurau ar waith fel llythyrau rhybudd, contractau ymddygiad derbyniol ac, yn y pen draw, camau gorfodi os ydynt yn briodol.
Gyda phob cyngor yn rhan o’r fenter, byddwn yn cydweithio i sicrhau y gofalir am gŵn, ac nad ydynt yn cael eu defnyddio mewn ffordd a allai achosi niwed neu ddiffyg trefn yn ein cymunedau.

Meddai’r Dirprwy Brif Gwnstabl Mark Hobrough, arweinydd Cyngor Cenedlaethol Penaethiaid yr Heddlu ar gŵn peryglus:

"Rwy’n falch o groesawu pedwar partner arall i fenter LEAD, a fydd yn golygu ein bod yn cydweithio i hyrwyddo perchnogaeth cŵn diogel a chadw’r cyhoedd yn ddiogel.

"Cydnabuwyd LEAD yn genedlaethol fel yr arfer gorau ar gyfer hyrwyddo perchnogaeth cŵn gyfrifol a byddwn yn gweithio gyda pherchnogion cŵn i annog a chefnogi’r ymddygiad hwn.

"Ond, rydym hefyd yn dal wedi ymrwymo i roi neges eglur y byddwn yn cymryd camau gorfodi pan fo’n briodol os bydd unrhyw un yn methu â chydymffurfio â’r ymyriadau.

"Rwy’n falch o ddweud bod mabwysiadu dull LEAD yn ehangu, ac mai ni yw heddlu cyntaf Cymru i weithio gyda Blue Cross, sy’n cynnig cyrsiau perchnogaeth cŵn i addysgu perchnogion.

"Mae lansiad heddiw yn dangos ein hymrwymiad i weithio gyda phartneriaid i sicrhau bod ein cymunedau’n aros yn ddiogel a bod perchnogion cŵn yn ymddwyn gyda buddiannau gorau eu hanifeiliaid anwes a’u cymdogion mewn golwg."

Os hoffech ragor o wybodaeth am LEAD, ewch i https://www.gwent.police.uk/cy-GB/heddluoedd/heddlu-gwent/ardaloedd/ymgyrchoedd/ymgyrchoedd/2024/lead.

Anogir y cyhoedd i ffonio’r awdurdod lleol mewn achosion o gŵn swnllyd, cŵn yn baeddu, bridio anghyfreithlon neu gŵn crwydr.

Ffoniwch Heddlu Gwent ar 101, neu anfonwch neges drwy Facebook neu Twitter ar gyfer bridiau anghyfreithlon, gornestau cŵn wedi’u trefnu, cŵn peryglus neu ymddygiad gwrthgymdeithasol gyda chŵn.
Mewn achos brys, ffoniwch 999 bob amser.



Ymholiadau'r Cyfryngau