News Centre

Cyfleoedd Menter yr Ifanc i ysgolion Bwrdeistref Sirol Caerffili

Postiwyd ar : 18 Gor 2024

Cyfleoedd Menter yr Ifanc i ysgolion  Bwrdeistref Sirol Caerffili
Mae'r elusen menter ac addysg ariannol flaenllaw, Menter yr Ifanc, yn darparu mynediad at brofiadau entrepreneuraidd blaenllaw, Rhaglen Cwmni a Rhaglen Tîm, i bobl ifanc ledled Bwrdeistref Sirol Caerffili.
 
Mae cymorth gan y Cyngor a chronfeydd cenedlaethol yn galluogi ysgolion ledled y Fwrdeistref Sirol i gofrestru ar gyfer y rhaglen heb unrhyw gost.
 
Ym mlwyddyn academaidd 2024/25, bydd timau o'r ysgolion canlynol yn manteisio ar leoedd wedi'u hariannu ar raglen Menter yr Ifanc:
 
  • Ysgol Gyfun Martin Sant
  • Ysgol Lewis Pengam
  • Ysgol Gymunedol Cenydd Sant
 
Mae cyllid dal ar gael i alluogi tîm o bobl ifanc arall fanteisio ar brofiad Rhaglen Cwmni neu Raglen Tîm Menter yr Ifanc yn 2024/25. Os hoffech chi gael rhagor o wybodaeth neu i gofrestru eich ysgol i gymryd rhan, cysylltwch â Bethany George bethany.george@y-e.org.uk neu Antony Bolter boltea@caerffili.gov.uk neu ffonio 07766 162570.
 
Yn ddiweddar, roedd tîm o wirfoddolwyr lleol Menter yr Ifanc wrth eu bodd â llwyddiant tîm lleol o Ysgol Gyfun Gymraeg Penweddig yn Aberystwyth. Creodd eu busnes Rhaglen Cwmni, Llanw, lyfr coginio dwyieithog o'r enw “Sbarion – Datrysiad i Wastraff”, gyda ryseitiau sy'n gwneud defnydd da o fwyd dros ben. Fe wnaeth llwyddiant y tîm ennyn diddordeb y BBC, a gyhoeddodd erthygl amdanyn nhw yma.
 
Enillodd y tîm, sy'n cynnwys myfyrwyr o Flwyddyn 10 a 12, Rownd Derfynol Rhaglen Cwmni Cymru, yn ogystal ag ennill Rownd Derfynol Menter yr Ifanc, y DU. Roedd y cyflawniad hwn yn golygu y gall y tîm gystadlu yng Ngŵyl Entrepreneuriaeth Ewropeaidd Gen-E 2024, wedi'i threfnu gan Junior Achievement ledled y byd, wedi'u chynnal eleni yn Sisili. Yn y digwyddiad mawreddog hwn, enillodd Rheolwr Gyfarwyddwr y busnes Llanw, Nela Dafydd, wobr arweinyddiaeth Alumni, un o ddim ond pum cystadleuydd i gael y gydnabyddiaeth hon.
 
Yn lleol, cymerodd Ysgol Cenydd Sant, Ysgol Lewis Pengam ac Ysgol Coed Duon ran yn 2023-24 ac fe wnaeth eu myfyrwyr berfformio’n glodwiw yn Rownd Derfynol De-ddwyrain Cymru ar 15 Ebrill. Yn anffodus, nid oedd yr ysgolion yn cyrraedd Rownd Derfynol Cymru, ond fe wnaethon nhw ennill y gwobrau canlynol:
 
  • Ysgol Cenydd Sant – Cyflwyniad Cwmni Gorau a Gwobr Creadigrwydd
  • Ysgol Coed Duon – Defnydd Gorau o Dechnoleg      
 
Mae Rhaglen Cwmni yn cynnig cyfle dros gyfnod o 12 wythnos o leiaf i bobl ifanc sefydlu a rhedeg cwmni masnachu go iawn, gyda chymorth Cynghorydd Busnes neu athro.  Mae'r disgyblion yn gwneud yr holl benderfyniadau, o enwi'r cwmni, rheoli ei gyllid a gwerthu i'r cyhoedd. Mae'r rhai sy'n cymryd rhan yn cael profiad busnes ymarferol a sgiliau allweddol ar gyfer y byd gwaith. Wedyn, mae'r cwmni'n cael cystadlu trwy baratoi cynllun busnes cynhwysfawr, cael ei gyfweld gan banel o feirniaid a rhoi cyflwyniad.

Mae Rhaglen Tîm yn cynnig yr un cyfle i ddysgwyr ag anawsterau dysgu ysgafn i gymedrol, felly, mae ysgolion yn aml yn manteisio arni ar gyfer myfyrwyr ag Anghenion Addysgol Arbennig ac Anabledd (SEND).

I gael rhagor o wybodaeth am holl raglenni Menter yr Ifanc, ewch i'w gwefan.


Ymholiadau'r Cyfryngau