News Centre

​Anrhydeddu Ysgol Gynradd Fochriw â Gwobr Treftadaeth Gymreig o fri

Postiwyd ar : 31 Gor 2024

​Anrhydeddu Ysgol Gynradd Fochriw â Gwobr Treftadaeth Gymreig o fri

Mae Ysgol Gynradd Fochriw yn falch o gyhoeddi ei bod wedi cael y teitl "Ysgol Orau yng Nghymru ar gyfer Dysgu Hanes Cymru" gan Gymdeithas Ysgolion y Dreftadaeth Gymreig. Mae £500 yn cyd-fynd â’r wobr hon, sydd wedi'i noddi gan y Sefydliad Moondance enwog.

Mae'r wobr yn cydnabod ymroddiad eithriadol Ysgol Gynradd Fochriw i ddysgu treftadaeth Gymreig, yn enwedig trwy ymagwedd arloesol at y dyniaethau sy'n seiliedig ar ymholi. Wrth integreiddio hanes cyfoethog glofaol i’w chwricwlwm, mae’r ysgol yn meithrin gwerthfawrogiad a dealltwriaeth dwfn o’r etifeddiaeth Gymreig ymhlith ei myfyrwyr.

Fe wnaeth y Pennaeth, Sharon Pascoe, rannu ei chyffro, "Mae cael Gwobr Treftadaeth Gymreig a gwobr ariannol o £500 yn cadarnhau effaith ein hymagwedd at y dyniaethau sy'n seiliedig ar ymholi yn Ysgol Gynradd Fochriw. Mae’r gydnabyddiaeth yn dyst i waith caled ac ymroddiad ein disgyblion a’n staff wrth arddangos pwysigrwydd ein hetifeddiaeth Gymreig trwy thema lofaol.

“Mae'r Cwricwlwm i Gymru a Menter Ysgolion y Dreftadaeth Gymreig yn parhau i’n hysbrydoli ni i addysgu ein dysgwyr galluog uchelgeisiol am hanes cyfoethog ein hardal leol a thu hwnt.”

Mae Cymdeithas Ysgolion y Dreftadaeth Gymreig, sy'n enwog am hyrwyddo diwylliant a hanes Cymru o fewn y sector addysgol, wedi canmol Ysgol Gynradd Fochriw am ei rhaglen ragorol. Mae’r nawdd gan Sefydliad Moondance yn tynnu rhagor o sylw at bwysigrwydd cadw a dathlu naratifau hanesyddol Cymreig o fewn ysgolion.

Dywedodd y Cynghorydd Carol Andrews, Aelod Cabinet dros Addysg a Chymunedau, “Rydyn ni, yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili, yn hynod falch o Ysgol Gynradd Fochriw am gael y wobr hon ac am ddangos pa mor bwysig yw hi i ni gadw ein treftadaeth a’n hanes.

“Mae staff a disgyblion Ysgol Gynradd Fochriw yn dyst i’r gadwraeth hon.” 

Mae’r wobr hon yn pwysleisio ymrwymiad Ysgol Gynradd Fochriw i addysg drawsnewidiol a dylanwadol, gan sicrhau bod etifeddiaeth y dreftadaeth Gymreig yn cael ei throsglwyddo a’i choleddu gan genedlaethau’r dyfodol.



Ymholiadau'r Cyfryngau