News Centre

Bwrdeistref Sirol Caerffili yn cael y Faner Werdd

Postiwyd ar : 18 Gor 2024

Bwrdeistref Sirol Caerffili yn cael y Faner Werdd
Mae Bwrdeistref Sirol Caerffili wedi ennill 26 o Wobrau'r Fanau Werdd a Gwobrau Cymunedol y Faner Werdd ar gyfer 2024/25 – yr ail sir fwyaf llwyddiannus yng Nghymru.
 
Nod Gwobr y Faner Werdd, wedi'i chyflwyno yng Nghymru gan Cadwch Gymru'n Daclus, yw cysylltu pobl â'r parciau a'r mannau gwyrdd gorau oll. Mae’r gwobrau’n meincnodi parciau a mannau gwyrdd, fel bod ymwelwyr yn gwybod ble bynnag y mae Baner Werdd, eu bod nhw'n ymweld â lle eithriadol gyda’r safonau uchaf.
 
Mae rhai o’r mannau gwyrdd gwych ledled y Fwrdeistref Sirol i gael y wobr yn cynnwys Coedwig Cwmcarn, Parc Morgan Jones a Pharc Penallta yn ogystal ag amrywiaeth o fannau cymunedol megis Rhandir Cymunedol Cwm Aber a Pharc Eco Cefn Fforest, i enwi dim ond rhai.
 
Mae 291 o safleoedd ledled Cymru wedi cael gwobrau'r Faner Werdd a gwobrau Cymunedol y Faner Werdd. Mae cyfanswm o 199 o safleoedd cymunedol yn nodi’r lefel uchaf erioed i Gymru, sydd bellach yn falch o gael mwy o Wobrau Cymunedol y Faner Werdd nag unrhyw wlad arall sy’n cyflwyno cynllun y Faner Werdd.
 
Dywedodd y Cynghorydd Chris Morgan, Aelod Cabinet dros Wastraff, Hamdden a Mannau Gwyrdd, “Rydyn ni wrth ein bodd o gyhoeddi bod Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili yw'r ail sir fwyaf llwyddiannus i ennill gwobr y Faner Werdd a Gwobrau Cymunedol y Faner Werdd yng Nghymru.
 
“Mae hyn yn newyddion sy’n dyst i’r harddwch naturiol sydd gennym ni yma ym Mwrdeistref Sirol Caerffili ac i’r gwaith y mae ein tîm a’n gwirfoddolwyr yn ei wneud trwy gydol y flwyddyn i gadw ein mannau gwyrdd yn edrych mor wych.
 
“Diolch a da iawn i bawb dan sylw.”
 
Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid yn yr Hinsawdd a Materion Gwledig, Huw Irranca-Davies, “Rydw i'n falch iawn bod gan Gymru bellach fwy o safleoedd sydd wedi ennill Gwobrau Cymunedol y Faner Werdd nag unrhyw wlad arall yn y byd!
 
“Rydyn ni eisoes wedi ein rhestru fel yr ail wlad ailgylchu orau yn y byd ac mae newyddion heddiw yn enghraifft arall o sut mae Cymru yn arwain y ffordd. Rydyn ni'n gweithio tuag at genedl gryfach, wyrddach.”
 
Am ragor o wybodaeth am Wobrau'r Faner Werdd ac am restr lawn o'r safleoedd, ewch i: www.greenflagaward.org
 


Ymholiadau'r Cyfryngau