News Centre

Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili yn Eisteddfod Genedlaethol 2024

Postiwyd ar : 31 Gor 2024

Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili yn Eisteddfod Genedlaethol 2024
Mae'r Eisteddfod Genedlaethol yn cael ei chynnal ym Mhontypridd rhwng 2 a 10 Awst eleni a bydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili yn bresennol mewn mwy nag un ffordd.
 
Mae'r Cyngor yn gweithio mewn partneriaeth â Cymraeg i Bawb a bydd yn cynorthwyo ar eu stondin yn ystod yr Eisteddfod.  Mae Cymraeg i Bawb yn bartneriaeth rhwng Partneriaeth Hyrwyddo Addysg Cyfrwng Cymraeg De-ddwyrain Cymru a'r Pencampwr.  Mae’r bartneriaeth yn cynnwys 10 Awdurdod Lleol, 6 Menter Iaith, Cymraeg i Blant, Rhieni dros Addysg Gymraeg a Llywodraeth Cymru yn Ne-ddwyrain Cymru.  Mae'r prosiect yn cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru ac mae'r partneriaid yn cyfrannu ato.
 
Cafodd y prosiect ei ddechrau gan Grŵp Deddf, swyddogion iaith De-ddwyrain Cymru, pan wnaethon nhw sylweddoli y gallai’r partneriaid sy’n hyrwyddo addysg cyfrwng Cymraeg elwa’n aruthrol o gydweithio. Nod y bartneriaeth yw creu Cymru lle mae rhyddid i bawb ddysgu a siarad Cymraeg.
 
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili yn falch o’n cynnig addysg cyfrwng Cymraeg i blant, pobl ifanc a’r holl staff lleol sy’n cynorthwyo rhieni a gofalwyr ar eu taith. Mae Cymraeg i Bawb yma i'ch helpu chi i gael rhagor o wybodaeth am addysg cyfrwng Cymraeg fel y gallwch chi ei dewis ar gyfer eich plant!
 
Os ydych chi'n ymweld â’r Eisteddfod Genedlaethol eleni, dewch draw i siarad â’r swyddogion a chlywed am yr holl waith sy’n digwydd ledled y rhanbarthau i wella a chynyddu’r niferoedd sy’n dewis addysg cyfrwng Cymraeg.


Ymholiadau'r Cyfryngau