News Centre

Seminar – Datblygu eich Masnach Ryngwladol

Postiwyd ar : 01 Awst 2024

Seminar – Datblygu eich Masnach Ryngwladol
Ymunwch â ni am ddiwrnod llawn mewnwelediadau gwerthfawr ac awgrymiadau ymarferol ar sut i ehangu eich busnes yn rhyngwladol. P'un a ydych chi'n newydd i allforio neu'n bwriadu cynyddu eich ymdrechion masnachu rhyngwladol presennol, mae'r seminar hon yn berffaith i chi.

Bydd ein siaradwyr arbenigol yn ymdrin â phynciau fel cyllid masnach, hawliau eiddo deallusol, a sut y gall Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili helpu gyda chyngor ar fasnach ryngwladol.

Mae hwn yn ddigwyddiad rhad ac am ddim, ond busnesau o fewn Bwrdeistref Sirol Caerffili yn unig sy'n gymwys i fynychu. Yn dilyn y seminar, bydd digwyddiad rhwydweithio dros ginio.

Peidiwch â cholli'r cyfle hwn i fynd â'ch busnes i'r lefel nesaf yn y farchnad fyd-eang. Cofrestrwch nawr i sicrhau eich lle!

Dyddiad: Dydd Mercher 11 Medi 2024

Amser: 9.15am–1.30pm

Lleoliad: Canolfan Busnes a Thechnoleg Tredomen, Parc Tredomen, Ystrad Mynach, Hengoed CF82 7FN

Wedi'i drefnu gan: Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili – Tîm Busnes, Menter ac Adnewyddu

Mae'r digwyddiad yn rhad ac am ddim ac wedi'i gynllunio ar gyfer busnesau lleol ym Mwrdeistref Sirol Caerffili. 45 o leoedd yn unig sydd yn y digwyddiad. I gadw lle yn y digwyddiad hwn, cofrestrwch yma: www.eventbrite.com/e/developing-your-international-trade-seminar-tickets-953266093547


Ymholiadau'r Cyfryngau