News Centre

Cabinet yn cymeradwyo cynlluniau Llunio Lleoedd

Postiwyd ar : 26 Gor 2024

Cabinet yn cymeradwyo cynlluniau Llunio Lleoedd
Mae Cabinet Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili wedi cymeradwyo adroddiad i ddyrannu rhagor o gyllid tuag at ei raglen Llunio Lleoedd uchelgeisiol.

Nod rhaglen buddsoddi cyfalaf y Cyngor yw gwella isadeiledd a chyfleusterau cymunedol lleol trwy ei raglen Llunio Lleoedd uchelgeisiol, sy’n rhan o waith trawsnewid ehangach Mwstro Tîm Caerffili.

Mae'r fenter hon yn canolbwyntio ar gyflawni prosiectau cyfalaf hanfodol, gyda'r nod o greu cymunedau ffyniannus a datblygu cynaliadwy ar gyfer y dyfodol.

Yn benodol, mae’r Cabinet bellach wedi cytuno i ddefnyddio £9.21 miliwn o gyllid cyfalaf heb ei ddyrannu i gynorthwyo gwaith datblygu nifer o brosiectau cyffrous, gan gynnwys:
  • Ysgol Gynradd Plasyfelin
  • Ysgol y Lawnt ac Ysgol Gynradd Rhymni Uchaf
  • Ysgol Iau Llancaeach ac Ysgol Fabanod Llanfabon
  • Caerffili 2035 – Cymorth Amlddisgyblaethol
  • Cynllun Creu Lleoedd Bargod
  • Cynllun Creu Lleoedd Coed Duon
  • Caerffili 2035 – Ffrwd Waith yr Ardal Gwesty a Hamdden
  • Edward Street, Ystrad Mynach, Lliniaru Llifogydd
  • Van Road, Lliniaru Llifogydd
  • Strategaeth Leol ar gyfer Rheoli Perygl Llifogydd
Mae manylion llawn y prosiectau hyn yn yr adroddiad llawn.

Mae'r Cabinet hefyd wedi cymeradwyo bod £7.2 miliwn yn rhagor o gyfalaf heb ei ddyrannu yn cael ei neilltuo fel arian wrth gefn ar gyfer y rhaglen gyfalaf gyffredinol. Bydd yr arian hwn yn diogelu'r gallu i gyflawni'r prosiectau hyn wrth iddyn nhw symud ymlaen.

Dywedodd y Cynghorydd Sean Morgan, Arweinydd y Cyngor, “Mae rhaglen Llunio Lleoedd y Cyngor yn rhaglen buddsoddi cyfalaf uchelgeisiol a fydd yn darparu cyfleusterau allweddol i’n cymunedau ni eu defnyddio.

"Bydd y prosiectau hyn yn dod ag amrywiaeth o fanteision i'n cymunedau ni ledled y Fwrdeistref Sirol, gan gynnwys ysgolion, tai a chyfleusterau chwaraeon newydd.

"Wrth wynebu pwysau ariannol digynsail, mae angen i ni wneud y mwyaf o’n hadenillion posibl o fuddsoddi. Bydd y cyfraniad hwn o £9 miliwn yn denu buddsoddiad gwerth cyfanswm o dros £27 miliwn, diolch i drefniadau arian cyfatebol allanol hael. Mae’n amlwg ein bod ni'n gwneud y mwyaf o'r bunt yng Nghaerffili drwy ein strategaeth buddsoddi cyfalaf uchelgeisiol.

"Bydd yr adroddiad rydyn ni wedi’i gymeradwyo yn sicrhau y bydd ein buddsoddiad yn dod â'r adenillion mwyaf posibl i’n trigolion ni yn y blynyddoedd i ddod.”

I ddarllen yr adroddiad llawn, ewch i: https://democracy.caerphilly.gov.uk/documents/s49695/Cabinet%20Report%20-%20Place%20Shaping%20003.pdf?LLL=1


I gael rhagor o wybodaeth am raglen Mwstro Tîm Caerffili, ewch i: www.caerffili.gov.uk/my-council/mobilising-team-caerphilly?lang=cy-gb


Ymholiadau'r Cyfryngau