Drwy ddefnyddio’r safle we hwn, rydych yn cytuno i’n defnydd ni o gwcis.
Cliciwch am fwy o fanylion
.
Skip to content
Hygyrchedd
Cysylltwch â ni
Y ganolfan newyddion
Tanysgrifio
English
Search for:
Tasgau poblogaidd
Preswylydd
Busnes
Pethau i'w gwneud
Y Cyngor
Cymerwch ran
Menu
Tasgau poblogaidd
Swyddi a hyfforddiant
Prydau ysgolion cynradd
Canolfannau Hamdden
Canlyniadau'r Etholiad Cyffredinol 2024
Treth y Cyngor
Casgliad bin wedi'i golli
Gwneud cais, adrodd, gofyn, talu
Ysgolion, dyddiadau tymor a chau ysgolion
Trafnidiaeth gyhoeddus – gwybodaeth a chyngor
Credyd Cynhwysol (yn lle Budd-daliadau Tai)
Chwilio, olrhain a gwneud sylwadau ar geisiadau cynllunio
Diwrnodau casglu gwastraff
Preswylydd
Busnes
Pethau i'w gwneud
Y Cyngor
Cymerwch ran
Newyddion
Newyddion
Chwefror 2023
Cynlluniau cyllideb y Cyngor wedi'u Cymeradwyo
News Centre
Cynlluniau cyllideb y Cyngor wedi'u Cymeradwyo
Postiwyd ar : 24 Chw 2023
Mae cynlluniau cyllideb manwl Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili ar gyfer 2023/24 wedi’u cwblhau.
Cyfarfu cynghorwyr nos Iau (23/02/23) i ystyried y cynnig cyllideb terfynol yn dilyn cyfnod o ymgynghori cyhoeddus.
Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Gyllid y Cyngor, y Cynghorydd Eluned Stenner, “Rwy’n siŵr y bydd trigolion yn croesawu’r newyddion nad yw ein cynigion ni'n cynnwys toriadau sylweddol i wasanaethau allweddol a’n bod ni wedi gweithio’n galed i amddiffyn y gymuned oherwydd ein dull darbodus ni.
“Rydyn ni’n parhau i wynebu pwysau cyllidebol enfawr o ganlyniad i nifer o ffactorau allanol, ond rydyn ni’n llwyddo i lywio ein ffordd ni drwy rai dyfroedd cynhyrfus iawn ar hyn o bryd.
“Mae’r defnydd o’n cronfeydd wrth gefn ni, ynghyd ag ystod o arbedion parhaol a dros dro a chynnydd arfaethedig o 7.9% yn Nhreth y Cyngor, yn golygu ein bod wedi gallu cytuno ar gyllideb gadarn unwaith eto.
“Rwy’n gwerthfawrogi nad yw'r un ohonom ni eisiau gweld cynnydd yn nhreth y cyngor, ond y gwir amdani yw, heb y cynnydd bychan hwn, y byddai angen i ni ystyried toriadau mwy annymunol ac amhoblogaidd i wasanaethau. Hyd yn oed gyda’r cynnydd bychan hwn, bydd gan Gaerffili un o’r cyfraddau treth y cyngor rataf yng Nghymru o hyd,” ychwanegodd.
Mae nifer o newidiadau wedi eu gwneud i restr wreiddiol o arbedion yn dilyn adborth gan drigolion. Mae mwy na £600 mil o arbedion arfaethedig bellach wedi’u hailystyried gan gynnwys:
Cynnydd arfaethedig o 20% mewn ffioedd ar gyfer cadw lle ar gaeau chwaraeon i'w ostwng i 12%
Ailfeddwl am dynnu £10 mil yn ôl ar gyfer Canolfan Gymunedol Markham – bydd y cymhorthdal nawr yn cael ei dapro dros gyfnod o dair blynedd o fis Ebrill 2023.
Bydd rhaglen ariannu o'r enw Cronfa Ymrymuso'r Gymuned yn cael ei lleihau 30% yn hytrach na'i thynnu'n ôl yn gyfan gwbl.
Arbediad arfaethedig o 10% ar gyfer darpariaeth addysg arbenigol (SenCom) i'w ohirio wrth aros am drafodaethau ynghylch dull rhanbarthol wedi'i gytuno.
Newid y gostyngiad arfaethedig o 5.5 awr yn y cyllid ar gyfer costau gofalwyr y Ganolfan Gymunedol i 4 awr a'i dapro dros 3 blynedd o fis Hydref 2023 ymlaen.
Dywedodd Arweinydd y Cyngor, y Cynghorydd Sean Morgan, “Rydyn ni wedi gwrando’n ofalus ar farn ein trigolion ni ac, o ganlyniad, rydyn ni wedi ailfeddwl am nifer o’n cynigion arbedion gwreiddiol ni.
“Mae Caerffili, fel pob awdurdod lleol ledled Cymru, yn wynebu heriau ariannol sylweddol ar hyn o bryd, ond rydyn ni wedi gweithio’n galed i amddiffyn y gymuned rhag toriadau dwfn, diolch i’n rheoli ariannol effeithiol ni.”
Rhannwch y dudalen hon :
Rhannwch ar Facebook
Rhannwch ar Twitter
Newyddion Diweddar
Cabinet yn cymeradwyo cynlluniau Llunio Lleoedd
Tynnu pont droed Gorsaf Caerffili
Newidiadau i gludiant rhwng y cartref a'r ysgol yn destun adolygiad
Parti Traeth Coed Duon yn denu miloedd i ganol y dref
Digwyddiad Cwadrathlon i Blant Clwb Athletau Cwm Rhymni yn Hwb Athletau Cyngor Caerffili
Ymholiadau'r Cyfryngau
Cyfeiriad E-bost
Ffôn
Cyfeiriad
Gwasanaethau A i Y
A
B
C
Ch
D
Dd
E
F
Ff
G
Ng
H
I
L
Ll
M
N
O
P
Ph
R
Rh
S
T
Th
U
W
Y