News Centre

Busnes lleol llewyrchus, Hancox’s Pies, yn cael cymorth gan gyllid Llywodraeth y DU

Postiwyd ar : 30 Awst 2024

Busnes lleol llewyrchus, Hancox’s Pies, yn cael cymorth gan gyllid Llywodraeth y DU
Mae Hancox’s Pies yn fusnes lleol a agorodd yn 2020 sy’n creu prydau cartref i’r gymuned gyfagos.

Mae’r busnes lleol, sy’n gwneud peis, cacennau, crystau a rhagor o nwyddau cartref sydd wedi'u gwneud ar archeb, yn cyflwyno naws deuluol gwirioneddol gan fod perchennog y busnes, Alexandre Hancox, yn defnyddio ryseitiau ei fam, sydd wedi dod yr holl ffordd o Avora ym Mhortiwgal.

Pan gafodd cyfyngiadau COVID eu codi, sicrhaodd Hancox’s Pies eiddo ym Margod a oedd yn gweithredu fel caffi a becws ym mlaen y tŷ ar gyfer eu cymuned leol.

Wrth i’r busnes dyfu, symudodd Hancox’s Pies ym mis Rhagfyr 2023 i’w lleoliad presennol yng Nghaerffili. Fe wnaeth symud greu lle i 60 o gwsmeriaid eistedd gyda nifer o leoedd parcio. Mae'r peis a'r pasteiod hefyd yn cael eu gwneud yn y lleoliad mwy newydd, felly, maen nhw'n rhai o'r peis a phasteiod mwyaf ffres yn yr ardal.

Mae symud lleoliad wedi bod yn llwyddiant ysgubol, gyda dros 5,731 o beis a 5,594 o basteiod wedi'u gwerthu yn y caffi yn unig. Maen nhw wedi gorfod agor 7 diwrnod yr wythnos gyda phobl yn teithio o bob rhan o Gymru a hyd yn oed cyn belled ag Essex i flasu eu nwyddau. Yn ddiweddar, maen nhw hyd yn oed wedi dechrau archwilio cael eu hurio'n breifat gyda'r nos ac ar ddydd Sul ac yn parhau â'u stondinau hynod lwyddiannus mewn marchnadoedd bwyd a marchnadoedd ffermwyr.

Mae Hancox’s Pies hefyd yn parhau i gynorthwyo'r gymuned leol gyda phrydau fforddiadwy i blant gyda chynigion iddyn nhw fwyta am gyn lleied â £1 yn y caffi trwy gydol gwyliau’r ysgol.

Eleni, llofnododd Hancox’s Pies brydles ar gyfer yr uned drws nesaf i ehangu'r busnes ymhellach. Mae'r uned bellach yn cynnwys te a choffi, yn ogystal â chwrw drafft o Bortiwgal, rhagor o seddi ac oriau agor hirach.

Maen nhw hefyd wedi ennill amrywiaeth o wobrau megis gwobr ‘Becws y Flwyddyn’ yng Ngwobrau Manwerthu Annibynnol Cymru 2024, a ‘Masnachwr Hunangyflogedig y Flwyddyn’ yng Ngwobrau Dathlu Busnesau Bach y Ffederasiwn Busnesau Bach yn 2022.

Mae 8 o bobl yn cael eu cyflogi gan Hancox’s Pies ar hyn o bryd ac ar ôl ehangu i’r uned newydd, byddan nhw'n chwilio am ragor o staff yn fuan.

Mae Hancox’s Pies Ltd wedi cael cyfanswm o £37,452.88 gan Lywodraeth y DU drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU yn y 3 blynedd diwethaf. Cafodd y grant hwn ei neilltuo tuag at Hancox's Pies o gyllid y Gronfa Ffyniant Gyffredin trwy ymyrraeth Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili. Cafodd y grant arian cyfatebol gan y cwmni ar gyfer offer cegin cychwynnol, yna'r symud a rhagor o offer oedd eu hangen. Helpodd y grant terfynol gydag ehangu'r busnes i feddiannu'r uned gyfagos yn eu hadeilad newydd.

Rhoddodd y perchennog Alexandre Hancox ganmoliaeth i'r grant a Thîm Busnes Cyngor Caerffili gan ddweud, “Roedd y broses o wneud cais am y grantiau yn hawdd iawn ar bob achlysur, gyda chyfathrebu gwych gan y Cyngor. Rydyn ni'n rhagweld y byddwn ni'n gwneud dros £1 miliwn o drosiant eleni ac mae cymorth y Cyngor gyda’r ehangu wedi helpu cyflawni hyn.”

Dywedodd y Cynghorydd Jamie Pritchard, Aelod Cabinet dros Ffyniant, Adfywio a Newid yn yr Hinsawdd “Mae Hancox’s Pies wedi datblygu i fod yn frand lleol mor boblogaidd. Roedd yn wych cwrdd ag Alex i siarad am ei gynlluniau ar gyfer y dyfodol.”

Dewch o hyd i Hancox’s Pies ar Facebook: https://www.facebook.com/hancoxspies

Am ragor o wybodaeth am y cymorth busnes sydd ar gael, neu os oes gennych chi unrhyw gwestiynau, cysylltwch â:

Tîm Menter Fusnes ac Adnewyddu, Canolfan Busnes a Thechnoleg Tredomen, Parc Tredomen, Ystrad Mynach, Hengoed CF82 7WF

E-bost: busnes@caerffili.gov.uk | Ffôn: 01443 866220


Ymholiadau'r Cyfryngau