News Centre

Pwll nofio Canolfan Hamdden Trecelyn yn parhau i fod ar gau oherwydd problemau mecanyddol

Postiwyd ar : 27 Awst 2024

Pwll nofio Canolfan Hamdden Trecelyn yn parhau i fod ar gau oherwydd problemau mecanyddol
Hoffen ni roi gwybod i'r cyhoedd bod y pwll nofio yng Nghanolfan Hamdden Trecelyn yn parhau i fod ar gau oherwydd problemau mecanyddol gyda'r uned trin aer.

Ar ôl olrhain y broblem, rydyn ni wedi dod o hyd i ddiffyg yn yr uned trin aer, yn benodol gyda chydrannau'r ffan. Mae'r cydrannau hyn yn hanfodol er mwyn cynnal amgylchedd cyfforddus ar gyfer staff a defnyddwyr y pwll. Ar ôl archwiliad trylwyr, rydyn ni wedi penderfynu bod angen unedau newydd i'r ffan. O ystyried gofynion penodol ein cyfleuster, mae angen i unedau'r ffan gael eu gwneud yn arbennig.

Rydyn ni wedi archebu'r unedau pwrpasol i'r ffan ac rydyn ni'n gweithio'n agos gyda'n cyflenwyr ni i gyflymu'r broses gweithgynhyrchu a gosod. Mae pob ymdrech yn cael ei wneud i ddatrys y mater cyn gynted â phosibl, ac rydyn ni wedi ymrwymo i ailagor y pwll nofio dan yr amodau gorau posibl.

Dywedodd y Cynghorydd Chris Morgan, Aelod Cabinet dros Hamdden, “Rydyn ni'n deall pa mor bwysig yw’r pwll nofio i’n cymuned ac y gall cau'r pwll achosi tarfu. Cofiwch ein bod ni'n gwneud popeth posibl i sicrhau bod y pwll nofio yn weithredol unwaith eto cyn gynted â phosibl. Rydyn ni'n gwerthfawrogi eich amynedd ac yn edrych ymlaen at eich croesawu yn ôl yn fuan.”

Rydyn ni'n cydnabod yr anghyfleustra y gall cau'r pwll ei achosi ac yn gwerthfawrogi amynedd a dealltwriaeth y gymuned yn ystod y cyfnod hwn. Mae ein tîm yn ymroddedig i adfer y cyfleuster i weithrediad llawn cyn gynted â phosibl, ac rydyn ni'n obeithiol y byddwn ni'n croesawu nofwyr yn ôl yn y dyfodol agos.

Bydd rhagor o ddiweddariadau yn cael eu darparu wrth i ragor o wybodaeth ddod i law. Rydyn ni'n diolch i bawb am eu cefnogaeth a’u dealltwriaeth barhaus.


Ymholiadau'r Cyfryngau