News Centre

Dweud eich dweud ar Weledigaeth Sero Net 2050 – Mae Eich Llais yn Bwysig

Postiwyd ar : 29 Awst 2024

Dweud eich dweud ar Weledigaeth Sero Net 2050 – Mae Eich Llais yn Bwysig
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili wedi ymrwymo i adeiladu dyfodol glanach, gwyrddach i bawb, gan weithio tuag at weledigaeth wedi'i rhannu o Fwrdeistref Sirol Caerffili Sero Net erbyn 2050. 
 
Mae Allyriadau Carbon Sero Net erbyn 2050 yn nod uchelgeisiol ond mae'n hanfodol er mwyn amddiffyn ein hamgylchedd ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol. Rydyn ni am ddeall y ffordd orau i gefnogi trigolion a busnesau ar y daith hon. 
 
Ymunwch â ni ar gyfer sesiwn grŵp ffocws er mwyn i ni ddeall eich anghenion a'ch blaenoriaethau. Mae'r digwyddiad yn gyfle gwych i siapio ein gweledigaeth 2050, rhannu syniadau a dysgu am ymdrechion lleol tuag at ddyfodol gwyrddach.
 
Byddwn ni’n trafod y cysyniad o sero net, yr adnoddau rydych chi eisoes yn eu defnyddio, yr heriau rydych chi'n eu hwynebu, pa wybodaeth a chymorth sydd eu hangen arnoch chi a llawer mwy. Rydyn ni am feithrin ymdeimlad o gymuned a rhannu'r cyfrifoldeb am ddyfodol cynaliadwy gydag isadeiledd da i bawb. 
 
Drwy gymryd rhan, byddwch chi’n ein helpu ni i nodi'r ffyrdd mwyaf effeithiol o roi’r wybodaeth ddiweddaraf i drigolion a busnesau, ennyn eu diddordeb a meithrin ymdeimlad o hyder, cymhelliant ac ysbryd cymunedol. 
 
Manylion y digwyddiad: 
  • Digwyddiad Grŵp Ffocws Sero Net Caerffili
  • Dydd Iau 19 Medi 6pm-8pm
  • Tŷ Penallta, Ystrad Mynach 

Cofrestrwch nawr i fod yn rhan o'r sgwrs:  Tocynnau Grŵp Ffocws Sero Net Caerffili | Caerphilly Net Zero focus group, Dydd Iau 19 Medi 2024 am 18:00 | Eventbrite
 
Am ragor o wybodaeth: https://trafodaeth.caerphilly.gov.uk/strategaeth-datgarboneiddio
 


Ymholiadau'r Cyfryngau