News Centre

Y Cyngor yn rhoi pen ar halogi

Postiwyd ar : 30 Awst 2024

Y Cyngor yn rhoi pen ar halogi
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili ar genhadaeth i hybu cyfraddau ailgylchu, ac mae gwaith wedi bod yn mynd rhagddo i helpu gwella ansawdd y deunyddiau ailgylchadwy sy'n cael eu casglu wrth ymyl y ffordd. 

Mewn cyfarfod y Cabinet, a gafodd ei gynnal ddydd Mercher 18 Hydref 2023, cytunodd yr Aelodau ar weithredu proses addysg ac ymgysylltu well sy'n cynnwys llythyrau, ymweliadau â chartrefi a'r opsiwn i gyflwyno hysbysiad cyfreithiol i’r rhai sy’n torri’r rheolau’n gyson.

Er bod y dull ailgylchu wrth ymyl y ffordd presennol yn arwain at gasglu nifer sylweddol o dunelli o ailgylchu sych, ar hyn o bryd, mae lefelau uchel o halogi o fewn biniau ailgylchu brown y Fwrdeistref Sirol, ac nid yw bron i chwarter yr holl ddeunydd sy'n cael eu casglu wrth ymyl y ffordd i'w ailgylchu yn gallu cael ei brosesi fel deunydd ailgylchu.

Ers cyflwyno'r broses gorfodi halogiad manwl ym mis Chwefror 2024, mae'r Cyngor wedi rhoi hysbysiadau cosb benodedig i 19 o drigolion am halogi eu biniau ailgylchu yn barhaus drwy roi'r math anghywir o ddeunydd yn y biniau ailgylchu wedi'u darparu.

Meddai'r Cynghorydd Chris Morgan, Aelod Cabinet dros Wastraff, Hamdden a Mannau Gwyrdd, “Er nad yw dirwyo ein trigolion am beidio ag ailgylchu’n gywir yn gam roedden ni fel Cyngor eisiau ei gymryd, mae’n rhywbeth roedden ni'n teimlo ei fod yn angenrheidiol yn yr ychydig achosion lle mae trigolion yn halogi eu hailgylchu yn barhaus drwy roi pethau yn y biniau anghywir er gwaethaf gwaith ymgysylltu ac addysgu pellach yn uniongyrchol â nhw.

“Mae’n bwysig nodi bod hysbysiadau cosb benodedig yn cael eu rhoi fel y dewis olaf i drigolion mae'r Cyngor wedi cysylltu â nhw sawl gwaith ynglŷn â chynnwys eu biniau.  

“Rydyn ni'n obeithiol y bydd y broses newydd hon yn atal trigolion sy’n defnyddio eu biniau ailgylchu yn anghywir yn fwriadol ac yn lleihau gwaith y trigolion hynny sy’n gwneud y peth iawn yn gyson.”

Rhagor o wybodaeth am yr hyn sy’n mynd yn eich bin: www.caerffili.gov.uk/beth-syn-mynd-yn-y-bin 


Ymholiadau'r Cyfryngau