Archif Newyddion

Chwilio Newyddion

Archif Newyddion
Roedd yn anrhydedd i Wasanaethau Chwaraeon a Hamdden Bwrdeistref Sirol Caerffili groesawu Hanna Guise, Rheolwr Dysgu Nofio Cenedlaethol Nofio Cymru, i Ganolfan Hamdden Caerffili yr wythnos hon. Fe wnaeth Hanna arwain dosbarth meistr gyda’r nod o wella darpariaeth gwersi nofio ysgolion cynradd ledled y Fwrdeistref Sirol.
Ar ddydd Sadwrn 31 Awst a dydd Sul 1 Medi, cafodd canol tref Caerffili ei thrawsnewid unwaith eto ar gyfer dychweliad y digwyddiad eiconig, Gŵyl Caws Caerffili.
Mae Simplelifeco yn fusnes lleol sy’n cynorthwyo microfusnesau ledled y DU, gan helpu rhoi’r gorau i ddefnyddio plastig untro trwy gyflenwi deunydd pacio a phostio ecogyfeillgar y mae modd eu compostio'n llwyr.
Mae Geshmak yn gaffi, bar a bistro lleol a symudodd i dref Caerffili o Gasnewydd i safle gwag ar Clive Street.
Mae rhaglen haf Chwarae yn y Parc wedi bod yn llwyddiant, gyda digwyddiadau yn rhedeg o 1 Awst ym Mharc Lles Senghenydd ac yn dod i ben ar 27 Awst ar Faes y Sioe, Coed Duon. Er gwaethaf tywydd anrhagweladwy'r haf ym Mhrydain, dim ond un o'r wyth sesiwn a gafodd eu trefnu oedd wedi'i chanslo, gan alluogi plant a theuluoedd i fwynhau haf llawn...
Mae’n anghyfreithlon gwerthu cynhyrchion fepio nicotin i unrhyw un o dan 18 oed neu i oedolion eu prynu ar ran pobl ifanc dan 18 oed.