News Centre

Hoffech chi redeg cyfleuster cymunedol?

Postiwyd ar : 04 Hyd 2024

Hoffech chi redeg cyfleuster cymunedol?

Galwad i’r holl grwpiau cymunedol a thrigolion a hoffai wirfoddoli i reoli ased cymunedol.  

Mae polisi Trosglwyddo Asedau Cymunedol Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili yn rhoi cyfle i asedau megis adeiladau, tir neu gyfleusterau gael eu trosglwyddo i unigolion, grwpiau cymunedol neu glybiau i’w rhedeg.  

Mae gennym ni dri chyfle cyffrous sy’n wahanol iawn ac rydyn ni’n gwahodd datganiadau o ddiddordeb.  

Y Cyfleoedd: 

  • Hafod Deg: Wedi’i leoli yn 55 y Stryd Fawr, Rhymni, mae’r adeilad deulawr hwn yn barod i’w drawsnewid yn ganolfan gymunedol fywiog. 
  • Toiledau Parc Tredegar: Wedi’u lleoli ar Tredegar Street, Rhisga, mae’r adeilad unllawr hwn yn cynnig cyfle unigryw i wella a chynnal cyfleuster cyhoeddus. 
  • Tir yn Dan-y-Graig: Mae’r tir hwn yn Rhisga yn cynnig cyfle i grŵp cymunedol ddatblygu prosiect a fydd o fudd i’r ardal leol a’i chyfoethogi. 

Dywedodd yr Aelod Cabinet sy’n gyfrifol am Eiddo, y Cynghorydd Nigel George, “Mae gennym ni grwpiau cymunedol gwych ledled ein Bwrdeistref Sirol, ac rydw i’n teimlo’n gryf y gallwn ni weithio gyda’n gilydd i ddarparu cyfleoedd i redeg adeiladau a chyfleusterau er mwyn grymuso eu twf a’u llwyddiant hirdymor.” 

Ychwanegodd, “Rydyn ni’n bwriadu dod â rhagor o gyfleoedd i’r farchnad ac yn gofyn i’r rhai a allai fod â diddordeb drafod hyn gyda thîm medrus ac ymroddedig o weithwyr proffesiynol a all gynorthwyo unigolion a grwpiau drwy’r broses ymgeisio a thu hwnt. Byddwn i’n annog trigolion i gysylltu â’r tîm a chael rhagor o wybodaeth.”   

Pam dylech chi wneud hyn? 

Mae cyfleoedd Trosglwyddo Asedau Cymunedol yn darparu mwy na dim ond les; maen nhw’n cynnig cyfle i wneud gwahaniaeth gwirioneddol mewn cymunedau lleol. Trwy gymryd rhan yn y fenter hon, gall grwpiau lleol wella gwasanaethau cymunedol, meithrin cydweithio a chymryd cyfrifoldeb am reoli adnoddau cymunedol gwerthfawr. 

Sut i wneud cais:  

Rydyn ni’n annog grwpiau a/neu glybiau cymunedol sydd â diddordeb i gyflwyno’r ffurflen mynegi diddordeb erbyn 30 Hydref. 

Dylai cynigion amlinellu'r weledigaeth ar gyfer yr ased, dangos cyfleoedd i’r gymuned gymryd rhan a chynnwys cynllun cynaliadwyedd. Yn ogystal, mae ymrwymiad i reoli a chynnal yr ased yn hanfodol.  

Gallwch chi ddod o hyd i ragor o wybodaeth am y prosiectau unigol yma; 

Cymorth ac arweiniad: 

Mae'r Cyngor wedi ymrwymo i ddarparu cymorth cynhwysfawr drwy gydol y broses ymgeisio a datblygu. O arweiniad cychwynnol i gymorth parhaus, rydyn ni yma i helpu grwpiau cymunedol i lwyddo. 

Am ragor o wybodaeth, cysylltwch ag EvansN3@caerffili.gov.uk neu ffonio 01443 863333 
Gadewch i ni weithio gyda’n gilydd i sicrhau bod y prosiectau hyn yn llwyddo a chreu buddion parhaol i genedlaethau’r dyfodol. 



Ymholiadau'r Cyfryngau