News Centre

Disgyblion yn cymryd rhan yn y gwaith o adeiladu eu hystafelloedd dosbarth newydd

Postiwyd ar : 04 Hyd 2024

Disgyblion yn cymryd rhan yn y gwaith o  adeiladu eu hystafelloedd dosbarth newydd
Mae disgyblion yn Ysgol Gymraeg Cwm Derwen wedi bod yn cymryd rhan yng ngham adeiladu eu hestyniad ystafelloedd dosbarth newydd.
 
Mae’r ysgol yn cael cyfleuster addysgu deulawr ar wahân â phedair ystafell ddosbarth ac yn addasu ystafell ddosbarth dros dro sy’n bodoli eisoes. Cafodd y prosiect ei ariannu drwy Grant Cyfrwng Cymraeg Llywodraeth Cymru.
 
Cafodd staff a disgyblion eu gwahodd i’r safle gan y contractwyr, Knox a Wells, i gymryd rhan mewn digwyddiad ymgysylltu yr wythnos diwethaf. Cymerodd y disgyblion ran trwy roi olion dwylo ar y darn olaf o ffrâm ddur ar gyfer adeilad yr ystafelloedd dosbarth newydd, a’i lofnodi. Ar ôl hynny, fe wylion nhw y darn o ffrâm oedd newydd ei addasu yn cael ei osod.
 
Dywedodd y Cynghorydd Carol Andrews, Aelod Cabinet dros Addysg, “Mae hi wedi bod yn gyffrous gwylio’r ystafelloedd dosbarth newydd yn datblygu yn Ysgol Gymraeg Cwm Derwen, ac yn fwy cyffrous byth gweld y staff a’r disgyblion yn cymryd rhan yn y broses. Bydd yr ystafelloedd dosbarth newydd yn le gwych i’n disgyblion ddysgu a bydd yn gwneud gwahaniaeth am flynyddoedd i ddod.”


Ymholiadau'r Cyfryngau