News Centre

Cyflwyno’r rhai sydd wedi cyrraedd rownd derfynol Gwobrau Chwaraeon Caerffili 2024

Postiwyd ar : 02 Hyd 2024

Cyflwyno’r rhai sydd wedi cyrraedd rownd derfynol Gwobrau Chwaraeon Caerffili 2024
Mae Chwaraeon Caerffili yn falch iawn o gyflwyno’r rhai sydd wedi cyrraedd rownd derfynol Gwobrau Chwaraeon Caerffili 2024, y mae pawb wedi bod yn aros yn eiddgar amdanyn nhw. Bydd y digwyddiad, sy’n dathlu cyfraniadau eithriadol hyfforddwyr, athletwyr, gwirfoddolwyr a chlybiau lleol, yn cael ei gynnal yn Bryn Meadows: Gwesty a Sba, ddydd Gwener 8 Tachwedd.

Mae’r gwobrau’n cydnabod ymroddiad a chyflawniadau unigolion a grwpiau sydd wedi cyfrannu’n sylweddol at ddatblygu chwaraeon ledled y Fwrdeistref Sirol. Mae’r rhai sydd wedi cyrraedd y rownd derfynol, ar draws amrywiaeth o gategorïau, yn cynrychioli’r gorau o’n cymuned chwaraeon.

Isod, mae'r rhai sydd wedi cyrraedd y rownd derfynol ar gyfer pob categori:

Hyfforddwr Cymunedol y Flwyddyn
Mae'r wobr hon yn cydnabod hyfforddwyr sydd wedi cael effaith sylweddol ar eu cymuned, gan annog cymryd rhan a datblygu mewn chwaraeon ar bob lefel.
  • Jonah Jones
  • Matthew Cusack
  • Bethan Bushen
  • Tara Edwards

Hyfforddwr Cynhwysol y Flwyddyn
Mae'r categori hwn yn cydnabod hyfforddwyr sydd wedi dangos ymrwymiad rhagorol i wneud chwaraeon yn hygyrch ac yn gynhwysol i bawb, yn enwedig i’r rhai sydd ag anableddau neu anghenion ychwanegol.
  • Gareth Harper a Dean Thomas
  • Kate Miskell
  • Lee Meyrick​
  • Rhiannon Hughes

Cyflawniad gydol oes i chwaraeon
A hithau’n cydnabod unigolion sydd wedi rhoi nifer o flynyddoedd o wasanaeth i chwaraeon, mae'r wobr hon yn dathlu cyfraniadau gydol oes i ddatblygu a llwyddiant chwaraeon yng Nghaerffili.
  • Brian ac Alison Huish
  • Hillary a Ken Goodger

Gwirfoddolwr y Flwyddyn
Mae'r wobr hon ar gyfer y rhai sydd wedi gwneud cyfraniad gwirfoddol eithriadol i chwaraeon, gan roi o'u hamser i gynorthwyo athletwyr, clybiau, a digwyddiadau yn y gymuned.
  • John Helmore
  • Leighton John
  • Ross Duffield
  • Andrea Ambler

Gwirfoddolwr Ifanc y Flwyddyn (o dan 18 oed)
A hithau’n cydnabod ymrwymiad ac angerdd gwirfoddolwyr ifanc o dan 18 oed, mae’r wobr hon yn dathlu’r rhai sy’n cyfrannu at dwf a llwyddiant chwaraeon yn y gymuned.
  • Alexi Pipe
  • Emilie Allen
  • Eva Cecil
  • Gwennan Edwards
  • Arweinwyr Cyfoedion Valleys Girls

Clwb y Flwyddyn
Mae’r categori hwn yn cydnabod clybiau sydd wedi dangos rhagoriaeth wrth ddatblygu eu chwaraeon, cynorthwyo eu haelodau a gwella’r gymuned chwaraeon leol.
  • Clwb Bowlio i Fenywod Abercarn ac Islwyn
  • Clwb pêl-droed Castell Caerffili
  • Clwb pêl-droed Caerphilly Dragons
  • Clwb Bowlio Lles Oakdale
  • Valley Taekwondo Academy
  • Clwb pêl-droed Wattsville
  • Clwb Rygbi Ynysddu

Mae disgwyl i Wobrau Chwaraeon Caerffili fod yn noson gyffrous, yn dathlu'r gorau oll o ran talent ac ymroddiad i chwaraeon lleol. Pob lwc i bawb sydd wedi cyrraedd y rownd derfynol ac rydyn ni’n edrych ymlaen at gydnabod eu llwyddiannau anhygoel.


Ymholiadau'r Cyfryngau