Mae gwirfoddolwyr ledled Bwrdeistref Sirol Caerffili wedi cael eu cydnabod yn nigwyddiad Gwobrau Cyflawniad Gwirfoddolwyr 2024, a gafodd ei gynnal yng Nghoed Duon ar ddydd Mawrth 8 Hydref.
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili a Chymdeithas Mudiadau Gwirfoddol Gwent (GAVO) yn trefnu'r seremoni wobrwyo i anrhydeddu gwirfoddolwyr sy'n ymgymryd â gwaith amhrisiadwy ym mhob rhan o'r gymuned leol.
Yn ystod y noson, cafodd yr enillwyr eu llongyfarch a chael gwobrau ym mhresenoldeb Arglwydd Raglaw Gwent, yr Uchel Siryf a Maer Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili.
Dywedodd y Cynghorydd Sean Morgan, Arweinydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili, “Mae'r gwobrau'n dathlu ysbryd, brwdfrydedd ac ymroddiad diddiwedd ein sector gwirfoddol ffyniannus, ac mae'n bleser ac yn anrhydedd i mi fod yn rhan ohono.
“Mae gwirfoddolwyr yn ysbrydoliaeth i ni i gyd gan eu bod nhw'n chwarae rhan mor hanfodol yn ein cymdeithas. Mae seremonïau gwobrwyo fel hyn yn ein galluogi ni i wneud ein rhan fach ni i gydnabod y cyfraniad cadarnhaol y maen nhw'n ei wneud i fywydau cymaint o bobl.”
Dyma restr lawn yr enillwyr eleni:
Y Fenter Gymdeithasol Fwyaf Arloesol
Enillydd: Joanne Payton – A Best Friend’s Handbook
Yn agos at y brig: Vision 21
Ymddiriedolwr a Chyfarwyddwr
Enillydd: Lesley Brunton, Canolfan Galw Heibio i Bobl Ifanc Senghenydd
Yn agos at y brig: Lesley Isaacs-Penny, Beiciau Gwaed Cymru
Yn agos at y brig: Chris Edwards – Cyfeillion y Parc Eco, Cefn Fforest
Cynaliadwyedd Bwyd
Enillydd: Caerphilly People First
Yn agos at y brig: Hwb Cwm Sirhywi, CIC
Chwaraeon a Hamdden
Enillydd: Cymdeithas Pêl-law Cymru
Yn agos at y brig: Arweinwyr Clwb Tenis Caerffili
Iechyd a lles
Enillydd: Wendy Williams a Geoff Cook
Yn agos at y brig: Sian Mainwaring
Eiriolwr Cymunedol
Enillydd: Dennis Roberts
Yn agos at y brig: Grŵp Cymdeithasol Dwyrain Caerffili
Amgylcheddol
Enillydd: Alan Harding
Yn agos at y brig: Valerie Hammond
Yn agos at y brig: Cyfnewidfa Gwisg Ysgol Caerffili
Person Ifanc Ysbrydoledig
Enillydd: Lucy Jones
Yn agos at y brig: Olivia Underwood
Yn agos at y brig: Esme Jones
Hyrwyddwr Teulu
Enillydd: The ToyBox Project
Yn agos at y brig: Vicky Jones
Taith Ysbrydoledig
Enillydd: Simon Cook
Yn agos at y brig: Ceri Hooper
Diwylliant a Threftadaeth
Enillydd: Neuadd y Gweithwyr, Caerffili
Yn agos at y brig: Black Vein Memorial Society
Gwobr Ddinesig y Maer
Laura Dufty
Gwobr yr Uchel Siryf
Llysgenhadon Ieuenctid Gwent N-Gage
Gwobr Arglwydd Raglaw Ei Fawrhydi Gwent 2024
Joanne Payton – A Best Friend’s Handbook