News Centre

Tîm Menter Fusnes ac Adnewyddu Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili yn dathlu llwyddiant seminar datblygu masnach ryngwladol

Postiwyd ar : 09 Hyd 2024

Tîm Menter Fusnes ac Adnewyddu Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili yn dathlu llwyddiant seminar datblygu masnach ryngwladol
Mae Tîm Menter Fusnes ac Adnewyddu Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili yn falch o gyhoeddi bod eu seminar diweddar, ‘Datblygu eich Masnach Ryngwladol’, wedi cael ei gwblhau'n llwyddiannus. Fe wnaeth y digwyddiad hwn ddod â busnesau lleol ynghyd sy'n awyddus i archwilio cyfleoedd mewn marchnadoedd rhyngwladol, a rhoi Caerffili mewn lle cadarn fel canolbwynt i dwf masnach.
 
Rhoddodd y seminar gipolwg gwerthfawr ac awgrymiadau ymarferol i fusnesau ar bob cam o'u taith masnach ryngwladol, p'un a oedden nhw'n newydd i'r maes allforio neu'n ystyried ehangu eu gweithrediadau presennol. Cafodd cyfoeth o wybodaeth ei darparu i'r rhai a oedd yn bresennol er mwyn iddyn nhw allu delio'n effeithiol â chymhlethdodau marchnadoedd rhyngwladol.
 
Roedd y rhaglen yn cynnwys arbenigwyr gwadd a wnaeth rannu eu gwybodaeth a'u profiad, gan gynnwys:
 
Emma Richards, cynrychiolydd o Swyddfa Eiddo Deallusol y Deyrnas Unedig, sydd wedi ymroi 25 o flynyddoedd a mwy i helpu busnesau bach a chanolig i ddiogelu eu newyddbethau a delio â'r heriau o ran eiddo deallusol.
 
Karen George, Cynghorydd Risg o Thomas Carroll Group PLC, sy'n arbenigo mewn yswiriant credyd masnach, a wnaeth drafod pwysigrwydd rheoli risgiau ariannol ym myd masnach ryngwladol.
 
Sarah Gaze, Swyddog Masnach Ryngwladol o Gyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili, a wnaeth roi cipolwg ar y cymorth sydd ar gael i fusnesau lleol sy'n ceisio ehangu eu cyrhaeddiad rhyngwladol.
 
Mae adborth gan y rhai a oedd yn bresennol wedi bod yn hynod gadarnhaol, gan amlygu bod y seminar yn adnodd hanfodol i fusnesau lleol sy'n ceisio tyfu eu hymdrechion ym myd masnach ryngwladol.
 
“Rydyn ni wrth ein bodd gyda nifer y bobl a ddaeth i'r digwyddiad a'r ymgysylltiad gan ein busnesau lleol,” meddai Adam Sadler, Prif Swyddog Datblygu Busnes. “Mae llwyddiant y seminar hon yn dangos pwysigrwydd darparu'r offer a'r wybodaeth sydd eu hangen ar ein busnesau ni i allu ffynnu yn y farchnad fyd-eang. Rydyn ni wedi ymrwymo i gynorthwyo twf masnach ryngwladol yng Nghaerffili ac yn edrych ymlaen at drefnu rhagor o ddigwyddiadau yn y dyfodol.”
 
I gael rhagor o wybodaeth am ddigwyddiadau sydd i ddod neu ragor o wybodaeth am gymorth ar gyfer masnach ryngwladol, ewch i www.caerffili.gov.uk neu gysylltu â'r Tîm Menter Fusnes ac Adnewyddu – Sarah Gaze: gazesl@caerffili.gov.uk


Ymholiadau'r Cyfryngau