News Centre

Tîm Cysylltu Bywydau yn dathlu llwyddiant yng Ngwobrau Gofal Cymru

Postiwyd ar : 25 Hyd 2024

Tîm Cysylltu Bywydau yn dathlu llwyddiant yng Ngwobrau Gofal Cymru

Enillodd tîm a gofalwyr Cysylltu Bywydau De-ddwyrain Cymru BEDAIR gwobr yng Ngwobrau Gofal Cymru yr wythnos ddiwethaf.

Enillodd Michelle a Gary Jones, gofalwyr Cysylltu Bywydau, wobr Aur yn y categori Gwasanaeth Rhagorol.

Enillodd Michelle a Gary hefyd y wobr Ysbryd Gofal. Mae hon yn wobr fawreddog sy’n cael ei dewis gan y beirniaid o blith yr holl enwebion yn y rownd derfynol a’i chyflwyno i nodi pa mor arbennig ydyn nhw a’r cynhwysyn ychwanegol sy’n ymgorffori’r gwir rinweddau sydd eu hangen i ddarparu gwasanaeth gofal cymdeithasol sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn.

Daeth Emma Jenkins, Rheolwr Cofrestredig Cysylltu Bywydau, yn ail yn y wobr Arwain a Rheoli mewn Lleoliad Byw â Chymorth neu Grŵp Bach yn y Gymuned.

Cafodd y wobr Arian yn y categori Rhagoriaeth mewn Gwasanaethau Anabledd Dysgu ac Iechyd Meddwl ei hennill gan Kikki a Mathew Hern, Gofalwyr Cysylltu Bywydau.

Nod y gwobrau, sy’n cael eu trefnu gan hyrwyddwyr y diwydiant gofal, Fforwm Gofal Cymru, yw cydnabod gwaith rhagorol y rheini yn y sector gofal.

Cafodd yr enillwyr eu cyhoeddi mewn seremoni yng Ngwesty Holland House yng Nghaerdydd ddydd Gwener 18 Hydref, dan ofal y cyflwynydd radio a theledu Jason Mohammad.

Gallwch chi wylio'r enillwyr yn cael eu gwobrau yma - https://www.youtube.com/live/OZ60pGHL0Ik?

Dywedodd y Cynghorydd Elaine Forehead, Aelod Cabinet dros Ofal Cymdeithasol, “Rydw i mor falch bod pawb yn y tîm Cysylltu Bywydau yn cael eu cydnabod am eu gwaith caled yn creu gwasanaeth cymorth arobryn.

Mae’r Cynllun Cysylltu Bywydau yn adnodd amhrisiadwy sy’n rhoi’r cymorth sydd ei angen mewn ffordd gynnes ac urddasol i bobl sy’n agored i niwed ac mae’r gwobrau hyn yn dangos pa mor bwysig ydyw.

Ni fyddai’r cynllun yn bosibl heb y gofalwyr gwych sy’n rhannu eu hamser, eu cartref a’u cymunedau gyda’r bobl y maen nhw’n eu cynorthwyo, a hoffwn i ddiolch i bob gofalwr am eu rôl hanfodol yn cynorthwyo’r rhai mewn angen.”

Am ragor o wybodaeth am y Gwasanaeth Cysylltu Bywydau a’r hyn y gallai rôl gofalwr Cysylltu Bywydau ei gynnig i’ch cartref, cysylltwch â LleoliOedolion@caerffili.gov.uk neu 01443 864784.



Ymholiadau'r Cyfryngau