News Centre

​Menyw o Goed Duon yn euog o fridio cŵn heb drwydded a throseddau lles anifeiliaid

Postiwyd ar : 23 Hyd 2024

​Menyw o Goed Duon yn euog o fridio cŵn heb drwydded a throseddau lles anifeiliaid

Fe blediodd Tammy Ann HART o Central Avenue, Cefn Fforest, yn euog ar 25/06/2024 a chafodd ei dedfrydu gan Ei Anrhydedd y Barnwr R KEMBER yn Llys y Goron Merthyr Tudful ar 16 Hydref 2024 am fridio cŵn heb drwydded, troseddau Deddf Lles Anifeiliaid 2006 a methu â nodi mewn hysbysebion bod cŵn bach yn cael eu hysbysebu gan fridiwr cŵn yn groes i Reoliadau Diogelu Defnyddwyr rhag Masnachu Annheg 2008.

Cafodd Tammy Hart (48 oed) ddedfryd o 16 wythnos o garchar wedi’i gohirio am 52 wythnos am achosi dioddefaint diangen i un o’r 29 ci yn ei meddiant o dan adran 4(1) o Ddeddf Lles Anifeiliaid 2006, 3 chyhuddiad o ymarfer gwaharddedig o dan Reoliadau Diogelu Defnyddwyr rhag Masnachu Annheg 2008 am beidio â datgan gwerthu cŵn bach yn rhan o’i busnes, 2 gyhuddiad o fridio cŵn heb drwydded o dan Reoliadau Lles Anifeiliaid (Bridio Cŵn) (Cymru) 2014 a 3 chyhuddiad o fethu â gofalu am anghenion anifeiliaid o dan adran 9(1) o Ddeddf Lles Anifeiliaid 2006 sy’n ymwneud â gofal. Dedfrydodd Ei Anrhydedd y Barnwr R KEMBER Hart ar bob trosedd ac achosi dioddefaint diangen i un o'r cŵn yn ei meddiant oedd y mwyaf sylweddol ohonyn nhw.

Cafodd Hart hefyd ei gwahardd rhag masnachu pob anifail am gyfnod o 7 mlynedd o dan Ddeddf Lles Anifeiliaid 2006. Bydd ymchwiliad Enillion Troseddau nawr yn cychwyn gyda chostau'n cael eu gohirio tan ddiwedd yr achos hwnnw. 

Daw’r ddedfryd yn dilyn ymchwiliad gan dîm Safonau Masnach Cyngor Caerffili a welodd fod Hart yn parhau i hysbysebu cŵn bach ar werth ar ôl i’w thrwydded i fridio cŵn, a gafodd ei rhoi gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili, ddod i ben ym mis Chwefror 2020.  

Fe wnaeth Swyddogion Safonau Masnach, gyda chymorth Milfeddyg a Swyddogion Heddlu Gwent, gynnal chwiliad o eiddo Hart ar 9 Tachwedd 2022.  Fe ddaethon nhw o hyd i 29 o gŵn a oedd yn fudr ac yn flêr, yn byw mewn cynel awyr agored gorlawn wedi’i oleuo’n wael, ac nad oedd digon o amddiffyniad rhag y tywydd yno.  Roedd yr amgylchedd yn ddiflas ac nid oedd yn cynnig unrhyw ysgogiad synhwyraidd i'r cŵn. Roedd yn anghyfforddus oherwydd diffyg gwelyau meddal ac roedd y man cysgu wedi’i awyru’n wael gan beryglu croniad o nwyon amonia gwenwynig o’r baw.  Barnodd y Milfeddyg nad oedd anghenion lles pob un o’r 29 ci yn cael eu diwallu o ran eu hangen am amgylchedd addas, i allu arddangos patrymau ymddygiad arferol a chael eu cartrefu gydag anifeiliaid eraill neu ar wahân iddyn nhw yn groes i Adran 9 o Ddeddf Lles Anifeiliaid 2006. 

Roedd y Milfeddyg hefyd yn arbennig o bryderus am gi bach Shih Tzu gwrywaidd 9 wythnos oed a oedd yn ddifrifol o dan ei bwysau gyda deintgig gwelw ac abdomen wedi chwyddo. Felly, roedd yn dioddef yn ddiangen yn groes i Adran 4 o Ddeddf Lles Anifeiliaid 2006.

Ac eithrio 1 ci a oedd yn cael ei gadw yn y cartref, trosglwyddodd HART yn wirfoddol bob un o'r 29 ci i feddiant Cyngor Caerffili.  Cafodd y cŵn eu rhoi yng ngofal Hope Rescue ac rydyn ni am ddiolch iddyn nhw am ofalu amdanyn nhw.

Datgelodd ymholiadau dros gyfnod o 16 mis rhwng mis Mai 2021 a mis Medi 2022 fod Hart wedi magu o leiaf 26 torraid o sawl math o fridiau.  Roedd y cŵn bach yn cael eu hysbysebu ar blatfformau gwerthu ar-lein, ac nid oedd yr hysbysebion yn datgan bod Hart yn fridiwr. Cafodd yr elw a wnaeth hi ei gyfrifo i fod o leiaf £86,000. 

Dywedodd Sara Rosser, Pennaeth Gweithrediadau Hope Rescue,

“Roedden ni’n falch unwaith eto o allu cynorthwyo gwaith rhagorol Cyngor Caerffili ar yr achos hwn. Er y gall fod yn heriol derbyn nifer fawr o gŵn ag anghenion gofal niferus ar un adeg, rydyn ni’n falch iawn o ddweud bod yr holl gŵn bellach wedi’u mabwysiadu ac wedi mynd ymlaen i fyw bywydau hapus a boddhaus.”

Dywedodd y Cynghorydd Philippa Leonard, Aelod Cabinet dros Ddiogelu'r Cyhoedd,

“Mae bridio cŵn heb drwydded yn fater difrifol a'r gobaith yw y bydd canlyniad yr achos hwn yn ataliad cryf i'r rhai sy'n gweithredu yn anghyfreithlon.  Mae’r achos hwn yn ein hatgoffa ni o bwysigrwydd cadw at reoliadau bridio cŵn a’r angen i gael y trwyddedau gofynnol, fel y gallwn ni fel cyngor fonitro a diogelu lles anifeiliaid mewn sefydliadau bridio cŵn. Rydyn ni’n annog unrhyw un sy’n ystyried bridio cŵn i gysylltu â’n tîm trwyddedu a fydd yn gallu rhoi cyngor fesul achos.”

Os oes unrhyw un yn bryderus neu'n amheus o fridio cŵn yn anghyfreithlon, cysylltwch â'n timau Safonau Masnach neu Drwyddedu.  Bydd eich gwybodaeth yn ein helpu ni i fynd i'r afael â bridio cŵn bach yn anghyfreithlon yng Nghaerffili a bydd yn helpu i atal anifeiliaid rhag cael eu hecsbloetio gan fridwyr diegwyddor.”

SafonauMasnach@caerffili.gov.ukTrwyddedu@caerffili.gov.uk.
 



Ymholiadau'r Cyfryngau